Haf o Hwyl yng ngogledd Cymru gyda siopau ASDA
Mae Hamdden Sir Ddinbych wedi dod ynghyd ag ASDA i ddod â Haf o Hwyl i siopwyr gogledd Cymru.
SC2 a Ninja TAG fydd prif gyfranwyr ymgyrch Haf yr archfarchnad, gan roi cyfleoedd i gwsmeriaid nofio a chwarae am ddim dros yr Haf.
Pan fydd cwsmeriaid yn siopa yn ADSA rhwng 5 ac 16 Awst, fe fyddan nhw’n cael talebau am ddiwrnodau allan ar sail y swm y byddan nhw’n ei wario yn y siop.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydym yn falch o gael cydweithio ag ASDA dros yr Haf. Ar ôl blwyddyn anodd, fe hoffem ni wneud yn siŵr bod pawb yn cael Haf i’w gofio. Gyda’r cynnig hwn, gall trigolion ac ymwelwyr achub ar y cyfle i ymweld â’r parc dŵr, Ninja TAG a’n canolfan antur chwarae meddal newydd sbon.
“Rydym yn falch iawn o gael agor yr arena Ninja TAG wedi’i ehangu, ein Caffi Antur newydd sbon a’r Man Chwarae Antur newydd ar thema dinosoriaid! A hynny mewn union bryd ar gyfer y cynnig hwn. Bydd y man chwarae antur newydd hwn ar gyfer plant iau, ynghyd â’r profiad Ninja TAG hynod boblogaidd, yn gwneud SC2 yn gyrchfan ddelfrydol ar gyfer pawb o bob oed.”
I gael rhagor o wybodaeth ewch i sc2rhyl.co.uk/AsdaSummerofFun

