Dweud eich dweud ar sut y gall Llais weithio gyda phobl Cymru ar gyfer gwell gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn darn pwysig o waith sy’n cael ei wneud dros yr wythnosau nesaf, a gobeithiwn y bydd o ddiddordeb i chi.
Mae Llais yn gorff statudol annibynnol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llawer mwy o lais i bobl Cymru wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Gallwch ddarganfod mwy am yr hyn rydym yn ei wneud yma.
Fel rhan o’n cynllun 100 diwrnod a lansiwyd yn ddiweddar, rydym am gael sgwrs genedlaethol gyda phobl ym mhob rhan o Gymru, i weithio gyda ni i’n helpu i ddatblygu ein gweledigaeth, cenhadaeth a blaenoriaethau strategol.
Hoffem eich gwahodd i gymryd rhan yn y gwaith parhaus hwn. Rydym am i chi rannu eich barn ar yr hyn rydych chi’n credu sydd angen digwydd, a sut y gallwch chi weithio gyda ni, i sicrhau bod ein gweithgareddau’n golygu bod eich barn a’ch profiadau yn cael eu defnyddio gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gynllunio a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gwell.
Bydd yr hyn a ddywedwch wrthym yn ein helpu i nodi’r cyfeiriad a’r blaenoriaethau ar gyfer gwaith Llais yn y dyfodol yn y blynyddoedd i ddod a helpu i sicrhau ei fod yn gweithio i bawb, ym mhob rhan o Gymru.
Mae nifer o ffyrdd syml y gallwch chi, a’r rhai rydych chi’n byw, cymdeithasu neu weithio gyda nhw ymuno â’r sgwrs cyn y dyddiad cau sef 31 Gorffennaf 2023:
- Ymunwch â ni ar 3ydd Gorffennaf: Dewch draw i’n digwyddiad ar-lein ar 3ydd Gorffennaf 10.00 – 11.30yb, i gael trafodaeth gyfoethog ar Llais gyda phobl o bob rhan o’ch rhanbarth. Archebwch eich lle: https://www.eventbrite.co.uk/e/have-your-say-on-llais-n-wales-dweud-eich-dweud-ar-llais-gogledd-cymru-tickets-663436706047
- Cwblhewch ein harolwg syml: Naill ai rhannu eich meddyliau, syniadau a phrofiadau eich hun, neu drafod y cwestiynau hyn gyda’ch cydweithwyr a’ch cymunedau, a rhannu eich ymatebion fel grŵp. Dolen i’r arolwg yma: https://forms.office.com/e/aNk8nDxWrN(Wedi’u cynnwys yn ein harolwg mae’r egwyddorion eang sy’n llywio datblygiad Llais, i’ch helpu i ystyried effeithiau posibl i chi, eich sefydliad neu’ch cymuned. Gallwn hefyd roi arweiniad i chi ar gyfer cael y sgwrs hon gyda’ch cymunedau).
- Sgwrsio gyda ni: Os byddai’n well gennych siarad â ni, rhowch wybod i ni drwy ateb yr e-bost hwn. Byddwn yn trefnu amser a dyddiad sy’n addas i chi, neu byddwn yn hapus i ymuno â chyfarfod rhithwir o’ch tîm neu’ch cymuned i drafod pethau gyda’ch gilydd.(Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i sgwrsio â ni, fel cyfieithiad, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cysylltu â ni a byddwn yn trefnu.)
Os hoffech drafod y gwaith yn fanylach, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’r uchod, cysylltwch â ni drwy e-bostio northwalesenquiries@llaiswales.org
Mae croeso i chi rannu’r gwahoddiad hwn gyda’ch ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr; rydym am glywed gan amrywiaeth mor eang â phosibl o bobl.
Llawer o ddiolch

