Llun o Gastell Rhuddlan wedi ei gyflwyno i’r Maer gan yr Artist Gwynfor Griffiths
Mae artist sy’n wreiddiol o Ynys Môn ond sydd bellach yn byw yn y Rhyl wedi cyflwyno darlun o Gastell Rhuddlan i Mike Elgin, Maer Cyngor Tref Rhuddlan, fel y gall pobl Rhuddlan ei fwynhau.
Yn ddiweddar cafodd gwaith Gwynfor Griffiths, 87, ei arddangos mewn arddangosfa fis o hyd yn Oriel Môn Llangefni, Ynys Môn.
Dywedodd Mr Griffiths wrth y Maer ei fod wastad wedi bod â’i fryd ar ddilyn gyrfa ym maes celf ond bu’n rhaid iddo roi’r gorau i’r freuddwyd honno yn ystod ei arddegau.
“Pan oeddwn yn bump oed, dechreuais greu brasluniau pensil o bethau o amgylch y tŷ, fel cadeiriau, clociau a blodau,” dywedodd Mr Griffiths.
Yna, pan oeddwn tua deg oed, dechreuais baentio gyda phaent dyfrlliw – hen dai, ffermydd, eglwysi.”
Cafodd Mr Griffiths ei fagu yn Rhosgoch, Ynys Môn, gyda’i nain, cyn mynychu Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch, lle enillodd Lefel Uwch mewn Celf.
Oherwydd ei ragoriaeth ym maes celf llwyddodd i gael lle yn Ysgol Gelf Tŷ’r Brodyr yng Nghaerdydd, lle pasiodd yr arholiad ymarferol a chynigwyd lle iddo yn y Coleg ym mis Medi 1953.
Yn anffodus, oherwydd diffyg grantiau digonol gan awdurdodau addysg, bu’n rhaid i’r artist ifanc roi’r gorau i’w grefft, ac ymunodd yn fuan wedyn â’r Gwarchodlu Cymreig, lle bu’n gwasanaethu am ddwy flynedd.
Yn 1957, ymunodd Mr Griffiths â Heddlu Gwynedd ac yn ddiweddarach Heddlu Gogledd Cymru, gan dreulio’r rhan fwyaf o’i yrfa yn yr Adran Ymchwilio Troseddau.
Ar ôl iddo ymddeol, ailgydiodd yn y paentio ac ar ôl hyrwyddo ei waith ei hun ar Facebook daeth i sylw Oriel Môn. Mae amryw o bethau yn ysbrydoli paentiadau Gwynfor Griffiths, o dirweddau prydferth, marinas, a hen eglwysi i fywyd gwyllt a phortreadau. Mae’n arbennig o hoff o’r olygfa o Gastell Rhuddlan.
Dywedodd Mike Elgin: “Rydym wrth ein bodd i gael y cyfle i arddangos y llun gwych hwn o Gastell Rhuddlan gan Gwynfor Lloyd Griffiths yma yn Rhuddlan ac rydym yn gobeithio ei arddangos yn ein canolfan Gymunedol newydd yng Nghaeau’r Llyngesydd ar ôl iddi gael ei chwblhau yr haf hwn.”

