Llwybr Newydd yn agor yng Nghae’r Llyngesydd, Rhuddlan
Mae Cyngor Tref Rhuddlan yn falch o gyhoeddi bod y llwybr sy’n rhedeg o amgylch Cae Llyngesydd ar agor. Mae’r llwybr tarmac 1.5m o led a 470m o hyd yn cysylltu holl ardaloedd y cae. Bellach, gall defnyddwyr y caeau chwarae gyrraedd yr Hwb, y toiledau cyhoeddus newydd yn yr Hwb, yr ardal gemau amlbwrpas (MUGA), y maes parcio, y Clwb Bowlio, y rhandiroedd a’r ardal chwarae, heb orfod cerdded ar y glaswellt. Mae’r llwybr hefyd yn golygu gall pobl â chadeiriau olwyn a sgwteri symudedd gyrraedd y cyfleusterau yn hwylus.
Ariannwyd y llwybr gan Gyngor Tref Rhuddlan gyda chymorth grantiau gan Burbo Bank a Chyngor Sir Ddinbych, a’r adeiladwr oedd GJ Teeson, cwmni o Ruthun, a gwblhaodd y gwaith ar 17 Tachwedd.
Dywedodd y Maer Mike Kermode “Cae Chwarae’r Llyngesydd yw un o brif asedau Cyngor y Dref a Rhuddlan. Mae’r ardal chwarae agored ac eang yng nghanol dref yn un y gall pawb ei mwynhau. Mae Cyngor y Dref wedi gwneud llawer o welliannau i’r cyfleusterau ar y cae dros y blynyddoedd, gan gynnwys ardal gemau amlbwrpas (MUGA), ardal chwarae i blant a champfa awyr agored i oedolion a phlant. Y llynedd, gwnaethom agor adeilad yr Hwb ar y cae a dyma bencadlys y Cyngor erbyn hyn. Mae’n cael ei ddefnyddio hefyd fel cyfleuster cymunedol gan wahanol grwpiau a gall preswylwyr logi’r adeilad i gynnal partïon plant, ac ati. Mae adeilad yr Hwb hefyd yn cynnwys toiledau cyhoeddus, adnodd yr oedd llawer o ddefnyddwyr y cae wedi gofyn amdano.”
“Y gwelliant diweddaraf yw’r llwybr tarmac o amgylch y cae. Mae hyn yn golygu y gall pobl fwynhau cerdded o amgylch y cae, hyd yn oed ar ddyddiau gwlyb. Mae’r peiriannau adeiladu wedi amharu ar rai o’r ardaloedd o laswellt ond byddant yn cael eu hau a’u hadfer yn y gwanwyn. Un o’r tasgau eraill yn y gwanwyn fydd datblygu border o flodau gwyllt wrth ymyl y llwybr. Mae’r llwybr newydd yn fuddsoddiad mawr gan Gyngor y Dref ond rhaid pwysleisio bod 80% o’r costau wedi cael eu talu gan ffynonellau allanol, gan gynnwys grantiau gan Gyngor Sir Ddinbych a Burbo Bank, gan leihau’r costau i breswylwyr lleol.”
“Yn olaf, diolch yn fawr i gwmni GJ Teeson am y gwaith gwych er gwaethaf y tywydd gwlyb diweddar.”
“Felly, os ydych awydd mynd am dro yn Rhuddlan ac eisiau cadw eich traed yn sych, ewch draw i Gae’r Llyngesydd i fwynhau’r llwybr newydd.”
Yn y llun isod (chwith i’r dde) mae Garry Teeson, y Maer a’r Cynghorydd Mike Kermode, y Dirprwy Faer y Cynghorydd Simmons a’r Cynghorydd Mike Elgin.





