CADWCH YN WYBODUS

Llyfrgell Rhuddlan yn cynnal Caffi Cof Llwyddiannus

Community Events

Rhannwch y Post:
Cafodd preswylwyr Rhuddlan fore dymunol iawn yn y Caffi Cof a gynhaliwyd yn y Llyfrgell fore Gwener diwethaf. Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng y Llyfrgell a Making Sense CIO. Roedd cyfle i bobl weld a chyffwrdd mewn sawl eitem cofiadwy o’r 1950au a’r 1960au yn gysylltiedig â hanes tref y Rhyl fel cyrchfan glan-môr. Yn ogystal â dwyn atgofion am yr eitemau, roedd yn gyfle i bobl alw i gof y cyfnod, y lleoliadau a’r profiadau a gawson nhw yn y gorffennol. Cafwyd sawl sgwrs ddifyr wrth i bawb rannu eu hatgofion. Roedd te/coffi a bisgedi ar gael hefyd. Roedd Maer Rhuddlan, y Cynghorydd Mike Kermode, a’r Cynghorydd Arwel Roberts yn bresennol yn y sesiwn ac mae’r ddau yn aelodau gweithgar o Grŵp Dementia Rhuddlan. Dywedodd y Maer Mike “Roedd y sesiwn caffi cof yn ddifyr dros ben ac yn werth chweil.  Roedd yn gyfle i ail fyw llawer o atgofion hapus ac yn enghraifft arall o’r gwaith gwych mae’r Llyfrgell yn ei wneud i hybu digwyddiadau cymunedol a lles cymdeithasol. Mae digwyddiadau fel hyn yn bwysig i bawb ond maen nhw’n werthfawr iawn i bobl sy’n byw gyda dementia.  Rwy’n edrych ymlaen i weld rhagor o ddigwyddiadau tebyg yn ein tref.”