Maer a Dirprwy Faer newydd Rhuddlan yn canmol gwirfoddolwyr lleol
Mae Maer newydd Cyngor Tref Rhuddlan, y Cynghorydd Mike Kermode, yn canmol gwaith gwirfoddolwyr lleol sy’n gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i’r dref.
Meddai’r Cynghorydd Kermode – “Un o’r themâu yn ystod fy mlwyddyn fel Maer fydd cefnogi ac annog gwirfoddoli a gwasanaethu’r gymuned leol. Mae gwirfoddolwyr lleol yn cael effaith mor gadarnhaol ar ein tref – roedd hyn yn amlwg dros benwythnos y coroni pan gynhaliwyd digwyddiadau yn Eglwys y Santes Fair, y Ganolfan Gymunedol, ar Gae Chwarae’r Llyngesydd, y lawnt fowlio a’r rhandiroedd. Er bod Cyngor y Dref wedi noddi’r digwyddiadau hyn ni fyddai wedi bod yn bosibl eu cynnal heb y gwirfoddolwyr a weithiodd yn galed i sicrhau bod y penwythnos mor gofiadwy. Ond nid rhywbeth sy’n digwydd ar benwythnosau arbennig yn unig yw hyn, mae gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth yn Rhuddlan drwy gydol y flwyddyn gan gymryd rhan mewn amryw o weithgareddau. Mae rhai yn canolbwyntio ar weithgareddau amgylcheddol i wella edrychiad y Ffordd Fawr ac ardaloedd eraill – mae eraill yn canolbwyntio mwy ar gefnogi aelodau mwy bregus y gymuned, fel y Clwb Strôc, y Clwb Cinio a’n Grŵp Dementia ac mae llawer o weithgareddau gwirfoddol eraill yn dod â budd i’r gymuned leol.”
Cafodd y Cynghorydd Kermode ei gadarnhau yn Faer Cyngor y Dref yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nos Iau diwethaf. Mae ef a’i deulu wedi byw yn Rhuddlan am dros 50 mlynedd a dywedodd mai symud i’r dref oedd un o’r camau mwyaf cadarnhaol ym mywyd ei deulu. Mae Rhuddlan yn gymuned groesawgar, gyfeillgar a chefnogol ac mae’n lle gwych i fyw.
Mae’n briod â’r Faeres Sue ers bron i 54 o flynyddoedd, mae ganddynt ddau o blant a phedwar o wyrion. Mae Mike wedi bod yn Gynghorydd Tref am bron i 10 mlynedd ac roedd yn aelod o’r grŵp gwirfoddol bach a sefydlodd yr ŵyl fwyd a chrefftau, Gwledd-Fest Rhuddlan. Cyngor y Dref sy’n gyfrifol am drefnu’r digwyddiad blynyddol hwn erbyn hyn a chynhelir yr ŵyl nesaf ddydd Sadwrn, 20 Mai. Mae’r Cynghorydd Kermode hefyd yn aelod blaenllaw o Grŵp Dementia Rhuddlan sy’n darparu gweithgareddau fel sesiynau cadw’n heini mewn cadair ac atgofion cerddorol, ynghyd â dawnsfeydd prynhawn achlysurol, gan adlewyrchu diddordeb Mike mewn dawnsio, gan gynnwys dawnsio ‘ballroom’, Lladin a hyd yn oed dawnsio llinell.
Dirprwy Faer newydd Rhuddlan yw’r Cynghorydd Val Simmons. Mae Val wedi byw yn Rhuddlan am 12 mlynedd, mae hi’n briod ac mae ganddi ddau fab a dau o wyrion. Cafodd Val ei hethol yn gynghorydd yn etholiadau mis Mai y llynedd.
Dywedodd Val, “Mae’n anrhydedd ac yn fraint cael gwahoddiad i fod yn Ddirprwy Faer ein tref wych. Mae’r gwirfoddolwyr sy’n rhedeg y grwpiau cymunedol a’n canolfan gymunedol bob amser yn fy ysbrydoli, byddaf yn gwneud fy ngorau i’w cefnogi i gyd. Rwyf yn edrych ymlaen at fod yn Ddirprwy Faer eleni a chefnogi’r Maer newydd, y Cynghorydd Mike Kermode.”
Mae Val yn Gydlynydd Grŵp Gwirfoddol Grŵp MS (Sglerosis Gwasgaredig) Conwy a Sir Ddinbych ac mae hi hefyd yn aelod o Gyngor MS Cymru.


