Pobl Hŷn: Cost Byw
Yn sgil cyhoeddi’r cynnydd yn y cap ar brisiau tanwydd yr wythnos hon, rydym yn gwybod y bydd mwy a mwy o bobl yn syrthio i dlodi tanwydd wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen.
Mae pobl hŷn wedi dweud wrthym eu bod eisoes yn gwneud popeth y gallant i arbed arian, ac nad ydynt yn gallu fforddio cymdeithasu neu fynd allan i’w cymunedau mwyach, gan waethygu unigrwydd ac ynysigrwydd y pandemig.
Llawn cyn bwysiced â hynny, mae’r penderfyniad rhwng defnyddio tanwydd a biliau siopa wythnosol, a nodweddir yn aml fel ‘gwresogi neu fwyta’, yn llenwi meddyliau llawer o bobl.
Un o’r camau ymarferol y gellir ei gymryd i liniaru’r cynnydd mewn costau byw yw gwneud yn siŵr bod pobl yn derbyn yr incwm y mae ganddynt yr hawl iddo. Gobeithiwn y gallwch ein helpu gyda hyn trwy annog pobl yn eich cymuned i wirio eu bod yn derbyn popeth y mae ganddynt yr hawl iddo.
Mae amcangyfrifon y llywodraeth a gyhoeddwyd eleni yn awgrymu bod y canlynol yn wir yn y Deyrnas Unedig
- nid oedd hyd at 850,000 o deuluoedd a oedd â hawl i gael Credyd Pensiwn wedi’i hawlio
- nid oedd hyd at £1.7 biliwn o’r Credyd Pensiwn a oedd ar gael wedi’i hawlio: ar gyfartaledd, roedd hyn gyfystyr â thua £1,900 y flwyddyn i bob teulu a oedd â hawl i gael Credyd Pensiwn.
Byddai’r arian hwn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl hŷn sy’n byw mewn cymunedau ledled Cymru. Gallai hefyd arwain pobl at fathau eraill o gymorth, fel cymorth gyda biliau ynni yn y gaeaf, trwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed, triniaeth ddeintyddol, cymorth gyda rhent a gostyngiad yn y dreth gyngor.
Mae llawer o resymau pan nad yw pobl yn hawlio Credyd Pensiwn. Yn aml iawn, mae pobl yn credu na fydd ganddynt yr hawl iddo neu, gan wybod pa mor anodd yw pethau, nid ydynt eisiau bod yn faich. Yn ogystal, nid yw llawer o bobl yn sylweddoli os ydynt wedi cael eu gwrthod yn flaenorol, fe allai fod yn werth gwneud hawliad newydd, gan fod cyfraddau budd-daliadau’n newid, fel eu sefyllfa ariannol.
Mae bywyd yn ddigon caled heb bryderon ariannol, ac nid yw’n iawn bod cynifer o bobl nad ydynt yn hawlio arian sy’n ddyledus iddynt. Dylem fod yn gwneud popeth y gallwn, fel teulu, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol, i sicrhau nad yw pobl hŷn rydym yn eu hadnabod ymhlith y rhai sy’n colli’r cyfle i gael incwm ychwanegol hollbwysig.
Mae rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael a sut gall pobl gynyddu eu hincwm i’r eithaf ar ein gwefan: www.agecymru.org.uk
Neu gallwch annog pobl i hawlio Credyd Pensiwn. Dylai pobl alw llinell hawlio Credyd Pensiwn yr Adran Gwaith a Phensiynau yn uniongyrchol ar 0800 99 1234 neu fynd i www.gov.uk/pension-credit/how-to-claim. Gellir ei hawlio dros y ffôn ac ar-lein.
I gael gwybodaeth a chyngor arall, gall pobl yn eich cymunedau fynd i www.agecymru.org.uk/advice neu os ydynt eisiau siarad â rhywun yn uniongyrchol, yn Gymraeg neu Saesneg, gallant ffonio Llinell Gyngor Age Cymru – 9:00am i 4:00pm, dydd Llun i ddydd Gwener, neu anfon neges e-bost atom ar advice@agecymru.org.uk
Os hoffech drafod effaith cost byw neu unrhyw faterion eraill sy’n wynebu pobl hŷn yn eich cymunedau, cysylltwch â ni ar policy@agecymru.org.uk.
