CADWCH YN WYBODUS

Rhag-rybudd o ffyrdd ar gau

Community Events

Rhannwch y Post:
Mae Cyngor Sir Ddinbych am gynnal gwaith cynnal a chadw ar yr A525 a’r A547 yng ngogledd y sir yn hwyrach yn y mis. Bydd y gwaith yn cynnwys torri gwair, casglu sbwriel, glanhau draeniau ac atgyweirio goleuadau stryd ac yn cymryd lle rhwng 7pm a 6am ar y dyddiadau a nodir. Bydd y ffyrdd ar gau i gerbydau a cherddwyr ac mi fydd arwyddion yn gwyro’r traffig ar hyd ffyrdd eraill.

Rhag-rybudd o ffyrdd ar gau

Mae Cyngor Sir Ddinbych am gynnal gwaith cynnal a chadw ar yr A525 a’r A547 yng ngogledd y sir yn hwyrach yn y mis. Bydd y gwaith yn cynnwys torri gwair, casglu sbwriel, glanhau draeniau ac atgyweirio goleuadau stryd ac yn cymryd lle rhwng 7pm a 6am ar y dyddiadau a nodir. Bydd y ffyrdd ar gau i gerbydau a cherddwyr ac mi fydd arwyddion yn gwyro’r traffig ar hyd ffyrdd eraill. Bydd y gwaith yn cymryd lle yn y lleoliadau canlynol:
  • A525 Talardy i Gylchfan Morfa Lodge – dydd Llun, 19 Medi
  • A525 Ffordd Osgoi Rhuddlan (gan gynnwys cau lonydd rhwng cylchfannau Bryn Cwybyr a Ffordd Derwen) – dydd Mercher, 21 Medi
  • A547 Ffordd Abergele rhwng cylchfan Borth a ffin y sir â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – dydd Mawrth 29 Medi
Mae’r Cyngor yn dymuno ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra o ganlyniad i’r gwaith.