HYSBYSIAD DAN DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972 (Adran 87(2))
SEDD WAG CYNGHORYDD
RHODDIR HYSBYSIAD CYHOEDDUS TRWY HYN
bod sedd wag achlysurol am swydd Cynghorydd gyda Chyngor Tref Rhuddlan yn dilyn marwolaeth y Cynghorydd Gareth Rowlands.
1. Mae Rheol 5(2) o’r Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr), 2006 bellach yn gymwys.
2. Mae’r rheol yn caniatáu i ddeg etholwr yn y Gymuned lle mae’r sedd wag achlysurol ofyn i’r Swyddog Canlyniadau gynnal etholiad i lenwi’r sedd. * Rhaid cyflwyno’r cais hwnnw cyn pen 14 diwrnod, wedi’u cyfrifo yn unol â’r rheolau,** ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwn. Daw’r cyfnod 14 diwrnod i ben ddydd Mawrth, 22 Ebrill 2024.
3. Os na dderbynnir cais, rhaid i Gyngor Tref Rhuddlan, cyn gynted ag y bo hynny’n bosibl yn ymarferol, ar ôl i’r cyfnod 14 diwrnod ddod i ben, gyfethol unigolyn/unigolion i lenwi’r sedd.
Cyfeiriad y Swyddog Canlyniadau yw: Cyngor Sir Ddinbych, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay,
Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN. I gael arweiniad pellach, ffoniwch 01824 706000
Dyddiedig: 31 Mawrth 2025
Steve Wilson
Clerc Tref Rhuddlan
* Nid oes dull penodol o eirio’r cais hwn; gellir cyflwyno cais yn syml iawn mewn llythyr gyda’r geiriau canlynol fel pennawd “Rydym ni sydd wedi arwyddo isod, sef etholwyr [Ward ] Cymuned …, yn galw am etholiad i lenwi’r sedd wag yn sgil [marwolaeth] [ymddiswyddiad] ………………………………………….…”. Bydd o gymorth os bydd y rhai sydd wedi arwyddo yn printio eu henwau a’u cyfeiriadau wrth ymyl y deg llofnod.
** Wrth gyfrifo cyfnod y rhybudd, diwrnod un yw’r diwrnod sy’n dilyn dyddiad yr hysbysiad hwn; caiff dydd Sadwrn, dydd Sul, Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu Ŵyl y Banc neu ddiwrnod a ddynodwyd yn ddiwrnod o ddiolchgarwch neu alaru cyhoeddus eu diystyru, a daw’r cyfnod i ben am hanner nos ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwn. Mae Rheol 5(2) o’r Ddeddf Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr), 2006 bellach yn gymwys.

