| HYSBYSIAD DAN DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972 (Adran 87(2)) | ||
| SEDD WAG CYNGHORYDD | ||
| RHODDIR HYSBYSIAD CYHOEDDUS TRWY HYN | ||
| bod sedd wag achlysurol am swydd Cynghorydd gyda Chyngor Tref Rhuddlan yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd Robert Williams. | ||
| 1 | Mae Rheol 5(2) o’r Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr), 2006 bellach yn gymwys. | |
| 2 | Mae’r rheol yn caniatáu i ddeg etholwr yn y Gymuned lle mae’r sedd wag achlysurol ofyn i’r Swyddog Canlyniadau gynnal etholiad i lenwi’r sedd. * Rhaid cyflwyno’r cais hwnnw cyn pen 14 diwrnod, wedi’u cyfrifo yn unol â’r rheolau,** ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwn. Daw’r cyfnod 14 diwrnod i ben 22 Hydref 2024. | |
| 3 | Os na dderbynnir cais, rhaid i Gyngor Tref Rhuddlan, cyn gynted ag y bo hynny’n bosibl yn ymarferol, ar ôl i’r cyfnod 14 diwrnod ddod i ben, gyfethol unigolyn/unigolion i lenwi’r sedd. | |
| Cyfeiriad y Swyddog Canlyniadau yw: Cyngor Sir Ddinbych, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN. I gael arweiniad pellach, ffoniwch 01824 706000 | ||
| Dyddiedig: 2 Hydref 2024 Steve Wilson Clerc Tref Rhuddlan | ||
| * Nid oes dull penodol o eirio’r cais hwn; gellir cyflwyno cais yn syml iawn mewn llythyr gyda’r geiriau canlynol fel pennawd “Rydym ni sydd wedi arwyddo isod, sef etholwyr [Ward ] Cymuned …, yn galw am etholiad i lenwi’r sedd wag yn sgil [marwolaeth] [ymddiswyddiad] ………………………………………….…”. Bydd o gymorth os bydd y rhai sydd wedi arwyddo yn printio eu henwau a’u cyfeiriadau wrth ymyl y deg llofnod. ** Wrth gyfrifo cyfnod y rhybudd, diwrnod un yw’r diwrnod sy’n dilyn dyddiad yr hysbysiad hwn; caiff dydd Sadwrn, dydd Sul, Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu Ŵyl y Banc neu ddiwrnod a ddynodwyd yn ddiwrnod o ddiolchgarwch neu alaru cyhoeddus eu diystyru, a daw’r cyfnod i ben am hanner nos ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwn. Mae Rheol 5(2) o’r Ddeddf Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr), 2006 bellach yn gymwys. | ||