Sgowtiaid Beaver Rhuddlan yn Tyngu Llw
Roedd y maer Mike Elgin wrth ei fodd yn cyfarfod Sgowtiaid Beaver newydd Rhuddlan mewn seremoni yn Eglwys y Santes Fair, ddydd Sul, 5 Mawrth.
Dywedodd Maer Rhuddlan Mike Elgin “Roedd yn anrhydedd mawr cael fy ngwahodd i gyflwyno sgarff gwddf i bob un o’r Sgowtiaid Beaver newydd yn ystod y gwasanaeth. Mae’n wych gweld bod Sgowtiaid Beaver Rhuddlan wedi cael ei adfywio ac rwy’n dymuno’r gorau iddynt a’r holl arweinwyr i’r dyfodol”
Mae Grŵp Sgowtiaid Beaver Rhuddlan yn cael ei arwain gan Donna Musgrove ac mae’n cyfarfod bob wythnos yn yr Odyn. I gael rhagor o fanylion, ffoniwch Donna ar 07999 854619. Mae Donna yn gobeithio sefydlu Grŵp Sgowtiaid Squirrel’s yn y dyfodol agos ar gyfer plant 4 a 5 oed.
Mae’r llun isod yn dangos Grŵp Sgowtiaid Rhuddlan yn Eglwys y Santes Fair.

