Swydd wag – Clerc y Dref Cynorthwyol
Mae Cyngor Tref Rhuddlan yn gyngor blaengar a dynamig iawn sy’n gweithio’n galed iawn i wella’r dref i’r preswylwyr, ymwelwyr a’r bobl sy’n gweithio yn y dref.
Ydych chi’n unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliad, rhesymegol, sy’n gallu rhoi sylw i fanylion? Ydych chi’n mwynhau trefnu digwyddiadau a delio â’r cyhoedd?
Mae Cyngor Tref Rhuddlan yn dymuno penodi Clerc y Dref Cynorthwyol i weithio 50 awr y mis, oriau hyblyg. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau o bryd i’w gilydd.
Dyma gyfle gwych i weithio i Gyngor Tref Rhuddlan a helpu i wneud Rhuddlan yn lle gwych i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.
I gael pecyn swydd, rhagor o wybodaeth a ffurflen gais, anfonwch neges e-bost at Glerc y Dref: clerk@rhuddlantowncouncil.gov.uk 07775 673706
DYDDIAD CAU AR GYFER CEISIADAU – 5pm DYDD GWENER, 15 TACHWEDD 2024

