Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda Sustrans Cymru ar brosiect Teithio Llesol Parth Ysgol Rhuddlan i ddod o hyd i ffyrdd o wella llwybrau Teithio Llesol o amgylch Ysgol y Castell, Rhuddlan. Rydym am wneud cerdded, defnyddio cadeiriau olwyn, a seiclo ar gyfer siwrneiau bob dydd yn ardal Rhuddlan yn fwy diogel, yn enwedig i’r rhai sy’n teithio yn ôl ac ymlaen i’r ysgol.
Rydym wedi bod yn gweithio ar opsiynau dylunio ar gyfer Stryd y Castell, Lôn Hylas a Ffordd yr Abaty, ac rydym am i chi ddweud wrthym beth yw eich barn amdanyn nhw. Dywedwch wrthym beth rydych chi’n ei hoffi, a ddim yn ei hoffi, sut gellid gwella pob opsiwn neu unrhyw beth rydych chi’n meddwl ein bod ni wedi’i fethu.
Gall trigolion rannu eu syniadau a’u hadborth drwy fynd ar wefan y prosiect yma: https://storymaps.arcgis.com/stories/8d6ab81802af4f4e86ceee83f9c8df7d/.
Bydd yr arolwg ar gael ar-lein am dair wythnos hyd 13eg Hydref 2023.
Yn ogystal â chwblhau’r arolygon uchod, gallwch ddod draw i’n gweithdy wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Gymunedol Rhuddlan ar 2il Hydref am 18:30. Mae croeso I bawb!
Rhannwch yr wybodaeth yma gyda’ch ffrindiau, eich teulu a’ch cymdogion os gwelwch yn dda.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, neu os hoffech inni bostio copi papur, copi hawdd ei ddarllen, neu gopi print bras o’r ymgynghoriad atoch, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.

