Y Cyngor yn annog trigolion i wneud cais am gynlluniau Costau Byw cyn iddynt gau
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn mynd trwy geisiadau’r Gronfa Costau Byw yn ôl Disgresiwn a’r prif gynllun Costau Byw ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae 4312 o daliadau wedi’u gwneud neu £495,195 o bunnau wedi’u rhoi drwy’r Gronfa Costau Byw yn ôl Disgresiwn i drigolion cymwys sy’n byw mewn eiddo Band E ac sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol.
Bydd ffurflen gais ar gyfer mwy o drigolion cymwys ar gael ar 21 Medi a bydd modd cyflwyno cais tan 31 Mawrth 2023.
O ran y prif gynllun Costau Byw, mae cyfanswm o 27,014 o daliadau gwerth £150 wedi’u gwneud i drigolion cymwys (cyfanswm o £4,052,100).
Mae’r prif gynllun Costau Byw yn cau ar 30 Medi 2022 ac mae yna lawer o drigolion sydd heb wneud cais, felly mae’r Cyngor yn eu hannog i lenwi ffurflen gais cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn yr arian.
Meddai’r Cyng. Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol: “Mae’r Cyngor yn gweithio’n galed i brosesu’r taliadau hyn gan fod cefnogi ein trigolion yn flaenoriaeth allweddol yn y sefyllfa economaidd sydd ohoni.”
“Mae arnom ni eisiau annog pawb sy’n gymwys i dderbyn cymorth, sydd heb gyflwyno cais, i wneud hynny. Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n gymwys, defnyddiwch wefan y Cyngor i wirio’r gofynion cyn ei bod yn rhy hwyr.”
Am ragor o fanylion am y ddau gynllun yma, ewch i wefan y Cyngor yn www.sirddinbych.gov.uk/cymorth-costau-byw
Council Is Urging Residents To Apply For The Cost Of Living Schemes Before They Close
Denbighshire County Council is working through applications for the Cost of Living Discretionary Fund and the main Cost of Living Scheme on behalf of Welsh Government.
Already a total of 4312 payments worth £495,195 have been made for the Cost of Living Discretionary Fund to qualifying residents in Band E who pay by Direct Debit.
An application form for more qualifying residents will be available from September 21 for this fund and will stay open until 31 March 2023.
For the main Cost of Living Scheme, a total of 27,014 of £150 payments have been made to qualifying residents, totalling to a value of £4,052,100.
The main Cost of Living scheme closes on the 30 September 2022 and a large number of qualifying residents have still not applied, so the Council is urging those to complete an application form as soon as possible to ensure they receive their payment.
Councillor Gwyneth Ellis, lead member for finance, performance and strategic assets said “The Council is working very hard to process these payments as supporting our residents is a key priority in the current economic climate.”
“We want to urge all those eligible for support and have still not applied, to do so. Those who are unsure whether they are eligible should use the council website to check requirements before it is too late.”
For further details about the two schemes available please visit the Council’s website via – www.denbighshire.gov.uk/cost-of-living
