CADWCH YN WYBODUS

Yda chi’n angen cymorth?

Community Events

Rhannwch y Post:

Yda chi’n angen cymorth?

Age Cymru i gynnig gwasanaeth ffôn ‘check-in-and-chat’ ar gyfer pobl dros 70 oed Mae Age Cymru yn cynnig gwasanaeth ffôn gwirio-a-sgwrsio ar gyfer pobl dros 70 oed yng Nghymru sy’n byw ar eu pennau eu hunain. Y gobaith yw y bydd y fenter yn helpu i roi rhywfaint o sicrwydd i bobl hŷn, ateb ymholiadau sylfaenol a chysylltu pobl â gwasanaethau a chefnogaeth leol yn ystod yr achosion Coronavirus. Ar ddechrau’r wythnos hon fe’n cyfarwyddwyd i hunan-ynysu cyn belled ag y bo modd er mwyn helpu i’n hamddiffyn rhag y firws. Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl dros 70 oed a’r rhai â chyflyrau iechyd sylfaenol oherwydd eu bod mewn mwy o berygl o ddatblygu symptomau mwy difrifol os cânt eu heintio. Gall unrhyw un dros 70 oed yng Nghymru gofrestru gydag Age Cymru, yn rhad ac am ddim, i dderbyn galwad ffôn reolaidd gan yr elusen yn Saesneg neu Gymraeg. Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud ffoniwch y Rhif Cyngor Age Cymru ar 08000 223 444 neu e-bostiwch enquiries@agecymru.org.uk. Ymateb Cymunedol Gwirfoddol yn Rhuddlan Mae’r Cyngor Tref yn gweithio’n agos gyda Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (DVSC) i helpu pobl sy’n hunan-ynysu sydd angen help i casglu a danfon negeseuon siopa, casglu presgripsiynau, postio llythyrau ac ati. Gall Paul Smith drefnu i wirfoddolwr lleol wneud hynny danfon nwyddau i’ch drws yn ddiogel. Gallwch gysylltu â Paul ar: 07899 093 775 neu assist@rhuddlantowncouncil.gov.uk Diolch yn fawr iawn Y Maer – y Cynghorydd Arwel Roberts – 07813 550 998 arwel.roberts@denbighshire.gov.uk Dirprwy Faer – Cynghorydd Mike Elgin – 07932 954 906 mike.elgin@hotmail.co.uk Cynghorydd Ann Davies – 01745 591247 janetann.davies@denbighshire.gov.uk