Ystyried Dod Yn Gynghorydd?
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal digwyddiad er mwyn rhoi gwybodaeth wedi eu hanelu at drigolion y sir sy’n ystyried dod yn gynghorydd sir.
Fe gynhelir etholiadau nesaf y cyngor sir ddydd Iau, 5 Mai 2022, ar yr un diwrnod ag etholiadau’r cynghorau dinas, tref a chymuned.
Bydd cynrychiolwyr y cyngor wrth law i ddarparu gwybodaeth ar rôl y cynghorydd sir, sut mae’r Cyngor yn gweithio, materion sy’n wynebu cynghorwyr sir wedi’r etholiadau, y broses enwebu ac ethol a’r gefnogaeth sydd ar gael i gynghorwyr unwaith y maent wedi eu hethol.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Zoom yn dechrau am 6pm, ddydd Mawrth, 1af Mawrth 2022 a bydd yn parhau am tuag awr.
Os hoffech fynychu ebostiwch democrataidd@sirddinbych.gov.uk neu ffonio (01824) 712589 / 712575.
Am fwy o wybodaeth am unrhyw agweddau o broses yr etholiad, ymwelwch â: www.denbighshire.gov.uk/cy/eich-cyngor/pleidleisio-ac-etholiadau/byddwch-yn-gynghorydd.aspx neu ffoniwch 01824 706000.
Nodyn i Olygyddion:
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Cyfathrebu ar 01824 706222.
