CADWCH YN WYBODUS

Maer Rhuddlan 2021-22

Community Events

Rhannwch y Post:
Cllr Mike Elgin was installed as Mayor at Rhuddlan Town Council’s AGM on 13th May 2021. He expressed his thanks to all the Town Councillors for their trust in him and thanked Cllr Arwel Roberts retiring Mayor for his dedication and hard work during his 2 Years in Office.

Maer Rhuddlan 2021-22

Gosodwyd y Cynghorydd Mike Elgin yn Faer yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Tref Rhuddlan ar 13 Mai 2021. Mynegodd ei ddiolch i’r holl Gynghorwyr Tref am eu hymddiriedaeth ynddo a diolchodd i’r Cynghorydd Arwel Roberts sydd yn ymddeol fel Maer am ei ymroddiad a’i waith caled yn ystod ei 2 flynedd yn y swydd. . Magwyd y Cynghorydd Elgin yn Llanfair Dyffryn Clwyd ger Rhuthun a mynychodd yr ysgol yn Ysgol Gynradd DC Llanfair a Chynhwysfawr Brynhyfryd. Yn 18 oed, aeth ymlaen i ymuno â’r Heddlu Metropolitan yn Llundain gan gael ei leoli yn y West End – Vine Street. Ar ôl gwasanaethu yn y Met am 8 mlynedd trosglwyddodd i Heddlu Gogledd Cymru a gwasanaethodd yn bennaf fel Ditectif swyddog yn swyddfeydd CID Abergele, Bae Colwyn, Llandudno a St Asaph. Yn 2018 ymddeolodd ar ôl cyfanswm o 37 mlynedd o Wasanaeth yr Heddlu ac mae bellach yn helpu ei wraig – Marianne i redeg ei busnes llety Gwyliau ac yn gofalu am ei fam yn llawn amser. Mae gan y Cynghorydd Elgin 3 merch, yr ieuengaf,  Fleur yn byw gartref gydag ef a Marianne. Symudodd y Cynghorydd Elgin i fyw yn Rhuddlan yn 2006 ac mae’n byw yn Abbey Road. Ers 2018 mae wedi bod yn Gynghorydd ar Gyngor Tref Rhuddlan ac wedi bod yn Llywodraethwr Ysgol Y Castell ac yn aelod gweithgar o grŵp Ddementia Rhuddlan Cyfeillgar gan helpu i wneud Rhuddlan yn lle mwy cyfeillgar i Ddementia i fyw ynddo. Yn ei amser hamdden mae’r Cynghorydd Elgin yn mwynhau Bowls Crown Green yn Clwb Bowlio Rhuddlan a pysgota o amgylch Arfordir Gogledd Cymru. Mae’r Cynghorydd Elgin yn barod am flwyddyn brysur iawn ac wedi dewis dau achos da y mae’n dymuno codi arian ar eu cyfer fel yr elusennau a ddewiswyd ganddo. Y cyntaf yw’r Lleng Brydeinig Frenhinol sy’n dathlu eu Canmlwyddiant eleni a’r ail yw St Kentigern’s.