Maer Rhuddlan 2021-22
Gosodwyd y Cynghorydd Mike Elgin yn Faer yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Tref Rhuddlan ar 13 Mai 2021. Mynegodd ei ddiolch i’r holl Gynghorwyr Tref am eu hymddiriedaeth ynddo a diolchodd i’r Cynghorydd Arwel Roberts sydd yn ymddeol fel Maer am ei ymroddiad a’i waith caled yn ystod ei 2 flynedd yn y swydd. . Magwyd y Cynghorydd Elgin yn Llanfair Dyffryn Clwyd ger Rhuthun a mynychodd yr ysgol yn Ysgol Gynradd DC Llanfair a Chynhwysfawr Brynhyfryd. Yn 18 oed, aeth ymlaen i ymuno â’r Heddlu Metropolitan yn Llundain gan gael ei leoli yn y West End – Vine Street. Ar ôl gwasanaethu yn y Met am 8 mlynedd trosglwyddodd i Heddlu Gogledd Cymru a gwasanaethodd yn bennaf fel Ditectif swyddog yn swyddfeydd CID Abergele, Bae Colwyn, Llandudno a St Asaph. Yn 2018 ymddeolodd ar ôl cyfanswm o 37 mlynedd o Wasanaeth yr Heddlu ac mae bellach yn helpu ei wraig – Marianne i redeg ei busnes llety Gwyliau ac yn gofalu am ei fam yn llawn amser. Mae gan y Cynghorydd Elgin 3 merch, yr ieuengaf, Fleur yn byw gartref gydag ef a Marianne. Symudodd y Cynghorydd Elgin i fyw yn Rhuddlan yn 2006 ac mae’n byw yn Abbey Road. Ers 2018 mae wedi bod yn Gynghorydd ar Gyngor Tref Rhuddlan ac wedi bod yn Llywodraethwr Ysgol Y Castell ac yn aelod gweithgar o grŵp Ddementia Rhuddlan Cyfeillgar gan helpu i wneud Rhuddlan yn lle mwy cyfeillgar i Ddementia i fyw ynddo. Yn ei amser hamdden mae’r Cynghorydd Elgin yn mwynhau Bowls Crown Green yn Clwb Bowlio Rhuddlan a pysgota o amgylch Arfordir Gogledd Cymru. Mae’r Cynghorydd Elgin yn barod am flwyddyn brysur iawn ac wedi dewis dau achos da y mae’n dymuno codi arian ar eu cyfer fel yr elusennau a ddewiswyd ganddo. Y cyntaf yw’r Lleng Brydeinig Frenhinol sy’n dathlu eu Canmlwyddiant eleni a’r ail yw St Kentigern’s.