CADWCH YN WYBODUS

Llyfrgell Rhuddlan a Siop Un Alwad Lleol – Orian Agor

Community Events

Rhannwch y Post:
Gallwch nawr ymweld â’ch llyfrgell leol i bori, dewis, benthyg a dychwelyd llyfrau yn ystod yr oriau agor cyfredol. Byddwch angen gwneud apwyntiad i ddefnyddio cyfrifiadur ac argraffu, i drefnu desg i astudio, ac i gael mynediad i wasanaethau Siopiau Un Alwad, er mwyn i ni sicrhau fod digon o le i gadw pawb yn ddiogel. Ffoniwch eich llyfrgell leol i wneud apwyntiad. Bydd sesiwn ar gyfrifadur yn 1 awr ar hyn o bryd. Byddwch angen eich cerdyn llyfrgell i drefnu sesiwn cyfrifiadur.

Llyfrgell Rhuddlan a Siop Un Alwad Lleol – Orian Agor

Dydd Llun                9:30 am -12:30pm  & 1:30 pm -4:30 pm Dydd Mercher        9:30 am-12:30 pm & 1:30 pm-4:30 pm Dydd Gwener          9:30 am-12:30 pm & 1:30 pm-4:30 pm Dydd Iau                   1:30 pm-4:30 pm. Gallwch nawr ymweld â’ch llyfrgell leol i bori, dewis, benthyg a dychwelyd llyfrau yn ystod yr oriau agor cyfredol. Byddwch angen gwneud apwyntiad i ddefnyddio cyfrifiadur ac argraffu, i drefnu desg i astudio, ac i gael mynediad i wasanaethau Siopiau Un Alwad, er mwyn i ni sicrhau fod digon o le i gadw pawb yn ddiogel. Ffoniwch eich llyfrgell leol i wneud apwyntiad. Bydd sesiwn ar gyfrifadur yn 1 awr ar hyn o bryd. Byddwch angen eich cerdyn llyfrgell i drefnu sesiwn cyfrifiadur. Os ydych angen cymorth y Siop Un Alwad gydag ymholiad Cyngor neu i wneud taliad, ffoniwch y llyfrgell gan sicrhau fod gennych yr holl fanylion, er mwyn i ni fedru delio gyda’ch ymholiad a threfnu apwyntiad os byddwch angen galw mewn. Mae llyfrgelloedd yn llefydd diogel i ymweld gyda digon o le ar gyfer ymbellhau cymdeithasol, niferoedd cyfyngedig o bobl ar y tro, a glanweithydd dwylo ac offer ar gael. Bydd ein gwasanaeth Archebu a Chasglu poblogaidd yn parhau os ydi hi’n well gennych chi i ni ddewis llyfrau i chi eu casglu neu cael eu danfon atoch. Mae ein Gwasanaeth Llyfrgell Cartref yn danfon llyfrau at unrhyw un sy’n methu dod i’w llyfrgell leol – cysylltwch i wybod mwy am y gwasanaeth hwn. Dychwelwch eich llyfrau llyfrgell os gwelwch yn dda. Mae’r holl lyfrau sydd gennych ar fenthyg yn cael eu hadnewyddu yn awtomatig ac ni fyddwch yn cael eich dirwyo – ond fe hoffem eu cael yn ôl er mwyn ail-lenwi ein silffoedd! Gallwch eu dychwelyd i’r llyfrgell. Cofiwch y gallwch ymuno â’r llyfrgell, archebu llyfrau a lawrlwytho e-lyfrau, e-lyfrau llafar, cylchgronnau a phapurau newydd am ddim – cliciwch ar y botwm Catalog y Llyfrgell isod. Catalog y llyfrgell