Gallwch nawr ymweld â’ch llyfrgell leol i bori, dewis, benthyg a dychwelyd llyfrau yn ystod yr oriau agor cyfredol.
Byddwch angen gwneud apwyntiad i ddefnyddio cyfrifiadur ac argraffu, i drefnu desg i astudio, ac i gael mynediad i wasanaethau Siopiau Un Alwad, er mwyn i ni sicrhau fod digon o le i gadw pawb yn ddiogel. Ffoniwch eich llyfrgell leol i wneud apwyntiad. Bydd sesiwn ar gyfrifadur yn 1 awr ar hyn o bryd. Byddwch angen eich cerdyn llyfrgell i drefnu sesiwn cyfrifiadur.
Llyfrgell Rhuddlan a Siop Un Alwad Lleol – Orian Agor
Dydd Llun 9:30 am -12:30pm & 1:30 pm -4:30 pm
Dydd Mercher 9:30 am-12:30 pm & 1:30 pm-4:30 pm
Dydd Gwener 9:30 am-12:30 pm & 1:30 pm-4:30 pm
Dydd Iau 1:30 pm-4:30 pm.
Gallwch nawr ymweld â’ch llyfrgell leol i bori, dewis, benthyg a dychwelyd llyfrau yn ystod yr oriau agor cyfredol.
Byddwch angen gwneud apwyntiad i ddefnyddio cyfrifiadur ac argraffu, i drefnu desg i astudio, ac i gael mynediad i wasanaethau Siopiau Un Alwad, er mwyn i ni sicrhau fod digon o le i gadw pawb yn ddiogel.
Ffoniwch eich llyfrgell leol i wneud apwyntiad. Bydd sesiwn ar gyfrifadur yn 1 awr ar hyn o bryd. Byddwch angen eich cerdyn llyfrgell i drefnu sesiwn cyfrifiadur.
Os ydych angen cymorth y Siop Un Alwad gydag ymholiad Cyngor neu i wneud taliad, ffoniwch y llyfrgell gan sicrhau fod gennych yr holl fanylion, er mwyn i ni fedru delio gyda’ch ymholiad a threfnu apwyntiad os byddwch angen galw mewn.
Mae llyfrgelloedd yn llefydd diogel i ymweld gyda digon o le ar gyfer ymbellhau cymdeithasol, niferoedd cyfyngedig o bobl ar y tro, a glanweithydd dwylo ac offer ar gael.
Bydd ein gwasanaeth
Archebu a Chasglu poblogaidd yn parhau os ydi hi’n well gennych chi i ni ddewis llyfrau i chi eu casglu neu cael eu danfon atoch. Mae ein
Gwasanaeth Llyfrgell Cartref yn danfon llyfrau at unrhyw un sy’n methu dod i’w llyfrgell leol – cysylltwch i wybod mwy am y gwasanaeth hwn.
Dychwelwch eich llyfrau llyfrgell os gwelwch yn dda. Mae’r holl lyfrau sydd gennych ar fenthyg yn cael eu hadnewyddu yn awtomatig ac ni fyddwch yn cael eich dirwyo – ond fe hoffem eu cael yn ôl er mwyn ail-lenwi ein silffoedd! Gallwch eu dychwelyd i’r llyfrgell.
Cofiwch y gallwch
ymuno â’r llyfrgell, archebu llyfrau a
lawrlwytho e-lyfrau, e-lyfrau llafar, cylchgronnau a phapurau newydd am ddim – cliciwch ar y botwm Catalog y Llyfrgell isod.
Catalog y llyfrgell