Hysbysiad o Etholiad
Dyddiad yr Etholiad: Dydd Iau 12 Mehefin 2025
Cyngor Tref Rhuddlan
Bydd etholiadau’n cael eu cynnal ar gyfer 1 cynghorydd tref. Mae’n rhaid cyflwyno papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau ar unrhyw ddiwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwn ond ddim hwyrach na 4pm ddydd Iau, 15 Mai 2025.
- Gellir cyflwyno papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau yn Neuadd y Sir, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN (trwy apwyntiad yn unig) o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn neu’n electronig yn unol â’r trefniadau fel y nodir yn y datganiad cyflawni electronig isod.
- Gellir cael papurau enwebu gan y Swyddog Canlyniadau unai yn Neuadd y Sir, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN; neu ar-lein o wefan y Comisiwn Etholiadol:
neu gellir gofyn amdanynt yn electronig dros e-bost (gweler y ‘datganiad cyflawni electronig’ isod).
- Os bydd unrhyw etholiad yn cael ei herio fe gynhelir y bleidlais ddydd Iau, 12 Mehefin 2025.
- Mae’n rhaid i geisiadau i gofrestru i bleidleisio gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN erbyn dydd Mawrth, 27 Mai 2025. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein: UK: cofrestru i bleidleisio [2]
- Mae’n rhaid i geisiadau, newidiadau neu ganslo pleidleisiau post gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN erbyn 5pm ddydd Mercher, 28 Mai 2025.
- Mae’n rhaid i geisiadau newydd i bleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN erbyn 5pm ddydd Mercher, 4 Mehefin 2025.
- Mae’n rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy brys yn yr etholiad hwn, oherwydd analluogrwydd corfforol neu am resymau gwaith / gwasanaeth, gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN erbyn 5pm ddydd Iau, 12 Mehefin 2025. I wneud cais mae’n rhaid bod y person wedi dod yn ymwybodol na all fynd i’r orsaf bleidleisio yn bersonol ar ôl 5pm ddydd Mercher, 4 Mehefin 2025.
Wedi’i argraffu a’i gyhoeddi gan Graham Boase, Swyddog Canlyniadau, Neuadd y Sir, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN
Ffôn: 01824 706000 – ebost: etholiadau@sirddinbych.gov.uk
Dyddiedig: 7 Mai 2025
Datganiad Cyflawni Electronig
Mae’n rhaid i bapurau enwebu a gyflwynir yn electronig dros e-bost gael eu cyflwyno yn unol â’r trefniadau fel y nodir yn y datganiad hwn.
Gellir anfon papurau enwebu ar gyfer Cyngor Tref Rhuddlan dros e-bost at: Cyngorcymuned.ymgeiswyr@sirddinbych.gov.uk
Gellir defnyddio’r cyfeiriadau e-bost uchod ar gyfer ymholiadau enwebu hefyd ac ar gyfer cyflwyno papurau enwebu drafft ar gyfer gwiriad anffurfiol (nodwch hwn yn glir yn llinell pwnc y neges e-bost fel ‘Enwebiad Drafft ar gyfer Gwirio’).
Dylid nodi ceisiadau ffurfiol ar gyfer papurau enwebu fel ‘Cais Enwebu Ffurfiol’.
Lle y bo’n bosibl, rhowch eich rhif ffôn yn yr e-bost eglurhaol rhag ofn y bydd gennym ymholiadau.
Dylid atodi papurau enwebu at yr e-bost mewn dogfen Word neu PDF. Mae llofnod wedi’i deipio, llofnod electronig neu lofnod inc gwlyb (ar bapur enwebu wedi’i sganio) i gyd yn llofnodion dilys ar gyfer papurau enwebu a gyflwynir yn electronig.
Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw sicrhau bod y Swyddog Canlyniadau yn derbyn y ffurflenni enwebu yn y ffordd gywir cyn y dyddiad cau.
Nid yw derbyn derbynneb darllen electronig gan y Swyddog Canlyniadau yn gadarnhad bod yr enwebiad yn ddilys. Bydd y Swyddog Canlyniadau yn anfon hysbysiad i hysbysu’r ymgeiswyr o’i benderfyniad o ran p’un a yw eu henwebiad yn ddilys neu beidio. Fodd bynnag, dylech dderbyn ymateb awtomatig o’r cyfeiriad e-bost a ddangosir uchod, a fydd yn nodi bod e-bost wedi’i gyrraedd. Os na fyddwch yn derbyn ymateb awtomatig cysylltwch ag etholiadau@sirddinbych.gov.uk
[1] https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/ymgeisydd-neu-asiant/ymgeiswyr-ac-asiantau-mewn-etholiadau-cynghorau-plwyf-a-chymuned-yng-nghymru

