CADWCH YN WYBODUS

Community Events

Rhannwch y Post:
Hysbysiad o Etholiad

Dyddiad yr Etholiad: Dydd Iau 12 Mehefin 2025

Cyngor Tref Rhuddlan Bydd etholiadau’n cael eu cynnal ar gyfer 1 cynghorydd tref.  Mae’n rhaid cyflwyno papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau ar unrhyw ddiwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwn ond ddim hwyrach na 4pm ddydd Iau, 15 Mai 2025.
  1. Gellir cyflwyno papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau yn Neuadd y Sir, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN (trwy apwyntiad yn unig) o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn neu’n electronig yn unol â’r trefniadau fel y nodir yn y datganiad cyflawni electronig isod.
  2. Gellir cael papurau enwebu gan y Swyddog Canlyniadau unai yn Neuadd y Sir, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN; neu ar-lein o wefan y Comisiwn Etholiadol:
neu gellir gofyn amdanynt yn electronig dros e-bost (gweler y ‘datganiad cyflawni electronig’ isod).
  1. Os bydd unrhyw etholiad yn cael ei herio fe gynhelir y bleidlais ddydd Iau, 12 Mehefin 2025.
  2. Mae’n rhaid i geisiadau i gofrestru i bleidleisio gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN erbyn dydd Mawrth, 27 Mai 2025. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein: UK: cofrestru i bleidleisio [2]
  3. Mae’n rhaid i geisiadau, newidiadau neu ganslo pleidleisiau post gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN erbyn 5pm ddydd Mercher, 28 Mai 2025.
  4. Mae’n rhaid i geisiadau newydd i bleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN erbyn 5pm ddydd Mercher, 4 Mehefin 2025.
  5. Mae’n rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy brys yn yr etholiad hwn, oherwydd analluogrwydd corfforol neu am resymau gwaith / gwasanaeth, gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN erbyn 5pm ddydd Iau, 12 Mehefin 2025. I wneud cais mae’n rhaid bod y person wedi dod yn ymwybodol na all fynd i’r orsaf bleidleisio yn bersonol ar ôl 5pm ddydd Mercher, 4 Mehefin 2025.
Wedi’i argraffu a’i gyhoeddi gan Graham Boase, Swyddog Canlyniadau, Neuadd y Sir, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN Ffôn: 01824 706000 – ebost: etholiadau@sirddinbych.gov.uk Dyddiedig: 7 Mai 2025    

Datganiad Cyflawni Electronig

Mae’n rhaid i bapurau enwebu a gyflwynir yn electronig dros e-bost gael eu cyflwyno yn unol â’r trefniadau fel y nodir yn y datganiad hwn. Gellir anfon papurau enwebu ar gyfer Cyngor Tref Rhuddlan dros e-bost at: Cyngorcymuned.ymgeiswyr@sirddinbych.gov.uk Gellir defnyddio’r cyfeiriadau e-bost uchod ar gyfer ymholiadau enwebu hefyd ac ar gyfer cyflwyno papurau enwebu drafft ar gyfer gwiriad anffurfiol (nodwch hwn yn glir yn llinell pwnc y neges e-bost fel ‘Enwebiad Drafft ar gyfer Gwirio’). Dylid nodi ceisiadau ffurfiol ar gyfer papurau enwebu fel ‘Cais Enwebu Ffurfiol’. Lle y bo’n bosibl, rhowch eich rhif ffôn yn yr e-bost eglurhaol rhag ofn y bydd gennym ymholiadau. Dylid atodi papurau enwebu at yr e-bost mewn dogfen Word neu PDF.  Mae llofnod wedi’i deipio, llofnod electronig neu lofnod inc gwlyb (ar bapur enwebu wedi’i sganio) i gyd yn llofnodion dilys ar gyfer papurau enwebu a gyflwynir yn electronig. Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw sicrhau bod y Swyddog Canlyniadau yn derbyn y ffurflenni enwebu yn y ffordd gywir cyn y dyddiad cau. Nid yw derbyn derbynneb darllen electronig gan y Swyddog Canlyniadau yn gadarnhad bod yr enwebiad yn ddilys.  Bydd y Swyddog Canlyniadau yn anfon hysbysiad i hysbysu’r ymgeiswyr o’i benderfyniad o ran p’un a yw eu henwebiad yn ddilys neu beidio. Fodd bynnag, dylech dderbyn ymateb awtomatig o’r cyfeiriad e-bost a ddangosir uchod, a fydd yn nodi bod e-bost wedi’i gyrraedd. Os na fyddwch yn derbyn ymateb awtomatig cysylltwch ag etholiadau@sirddinbych.gov.uk   [1] https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/ymgeisydd-neu-asiant/ymgeiswyr-ac-asiantau-mewn-etholiadau-cynghorau-plwyf-a-chymuned-yng-nghymru [2] https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio