CADWCH YN WYBODUS

A55 C24 i C27 AIL-WYNEBU (Wedi’i ddiweddaru)

Community Events

Rhannwch y Post:
Cyfeiriaf at yr uchod, a hoffwn eich hysbysu y bydd gwaith a nodir yn cael ei gynnal dros 9 noson rhwng 17/3/21 a 26/3/21. Gallai hyn olygu lefel sŵn uwch na'r arfer ar brydiau, a chymeraf y cyfle hwn i ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anhwylustod y gall hyn ei achosi. Bydd angen cau'r A55 yn llwyr a bydd hyn yn digwydd rhwng 20:00 a 06:00 (pan fydd llai o draffig).

A55 C24 i C27 AIL-WYNEBU

Hysbysiad o Waith Enw’r Prosiect: A55 Tua’r Dwyrain C24 i C27 Gwaith Arfaethedig: Gwaith atgyweirio hanfodol ar wyneb y ffordd gerbydau  Dyddiad Dechrau’r Rhaglen: Dydd Mercher 17/3/21 19:30 Dyddiad Cwblhau’r Rhaglen: Dydd Gwener 26/3/21 06:00 Cleient: ACGCC Prif Gontractwr: Hansons Construction   Cyfeiriaf at yr uchod, a hoffwn eich hysbysu y bydd gwaith a nodir yn cael ei gynnal dros 7 noson rhwng 17/3/21 – 20/03/21 (3 noson) a 22/03/21 – 26/3/21 (4 noson) Gallai hyn olygu lefel sŵn uwch na’r arfer ar brydiau, a chymeraf y cyfle hwn i ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anhwylustod y gall hyn ei achosi. Bydd angen cau’r A55 yn llwyr a bydd hyn yn digwydd rhwng 20:00 a 06:00 (pan fydd llai o draffig).   Y rhaglen arfaethedig o gyfyngiadau rheoli traffig:
Manylion y Cyfyngiadau Dyddiad ac amser dechrau** Dyddiad ac Amser Gorffen** Nodiadau
Cau ffordd gerbydau’r A55 tua’r dwyrain yn llwyr rhwng C24 Abergele a C27 Llanelwy. Cau ffordd ymuno a ffordd ymadael C25 Bodelwyddan tua’r dwyrain yn llwyr. Cau ffordd ymadael a ffordd ymuno’r C26 tua’r dwyrain yn llwyr.   Cau ffordd ymadael C27 tua’r dwyrain yn llwyr.           Dargyfeirir traffig oddi ar ffordd gerbydau’r A55 tua’r Dwyrain yn C24 Abergele, A547, A525  i ail-ymuno gyda’r A55 yng Nghyffordd 24. 20:00 17/3/21     20:00 22/03/21 06:00 20/3/2021     06:00 26/03/21           Mae pob llwyth anghyffredin dros 3.0m wedi’i wahardd rhag teithio ar hyd llwybr y gwyriad
** mae’r dyddiadau yn rhai amodol, a gallent newid Bydd traffig ar hyd y gwyriad yn cael ei fonitro i adnabod unrhyw broblemau / mesurau lliniaru ychwanegol sydd o bosib angen eu hystyried.   Y Gwasanaethau Brys (Heddlu / Tân / Ambiwlans) Dylai’r holl draffig (gan gynnwys cerbydau Gwasanaethau Brys) sy’n teithio yn yr ardal ddefnyddio’r llwybr(au) gwyriad priodol.   Llwythi annormal

Ni chaniateir i lwythi dros 3.0m o led deithio ar hyd y dargyfeiriad rhwng 20:00 a 06:00 o 17 – 20 Mawrth a 22 – 26 Mawrth 2021. Bydd darpariaethau yn eu lle ar gyfer llwythi annormal dros 3.0m i barcio dros nos yn y gilfan tua’r dwyrain yng Nghyffordd 24 Llandulas

  Porthladd Caergybi Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod i draffig y llongau fferi am y trefniadau cau arfaethedig, a chynghori’r holl gerbydau i yrru’n ofalus ar hyd llwybr y gwyriad.   Gwybodaeth ychwanegol Cysylltwyd ag Adran Gorchmynion Llywodraeth Cymru ynghylch y Gorchmynion Traffig. Cydlynwyd gydag ACGCC a Rheolwyr Gwasanaethau Stryd yr Awdurdod Lleol ynghylch pob elfen o’r gwaith (gan gynnwys addasrwydd llwybr y gwyriad). Rhoddwyd ystyriaeth lawn i effaith y gwaith ar ddefnyddwyr y ffordd, preswylwyr a’r gweithlu, e.e.  Math o reolaeth traffig dros dro (cau ffyrdd yn llwyr gyda gwyriadau lleol, gwrthlif, cau lonydd ac ati, lle ar y ffordd, dyddiad y gwaith, amser y gwaith, gwaith arall, ac ati). Mae arwyddion gwybodaeth wedi’u codi cyn i’r gwaith ddechrau, i hysbysu’r cyhoedd sy’n teithio am ddyddiadau ac amseroedd cau’r ffordd. Bydd ACGCC wedi / yn dosbarthu llythyrau i’r eiddo ar hyd safle’r gwaith er mwyn hysbysu trigolion / busnesau. Mae / bydd trefniadau wedi’u gweithredu er mwyn galluogi cwsmeriaid/gweithwyr i gael mynediad i a gadael eu heiddo pan fydd y ffordd wedi cau. Bydd Contractwyr Gwasanaeth y Gaeaf (PA) yn cael gwybod (cydlynir gwaith graeanu bob nos). Ymddiheuraf ymlaen llaw am unrhyw anhwylustod y gall hyn ei achosi. Ceir gwybodaeth bellach ynghylch y prosiect hwn, gan gynnwys diweddariadau cyson, ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth Traffig Llywodraeth Cymru: www.traffig.cymru.com. Os hoffech drafod y mater ymhellach, mae croeso ichi gysylltu â Traffig Cymru ar 0300 123 1213.