Adlenni Newydd ar Gyfer Siopau a Busnesau yn Rhuddlan
Mae busnesau a siopau yn Nhref Rhuddlan wedi elwa o adlenni newydd. Dechreuwyd y fenter hon o dan Faer y llynedd, y Cynghorydd Arwel Roberts, sy’n “falch iawn o weld y gwaith rhagorol a wnaed gan Lloyd Sign Solutions sydd yn sicr yn bywiogi’r stryd fawr.”
Gweithiodd y Cyngor Tref gyda Chyngor Sir Dinbych a Llywodraeth Cymru i sicrhau grant i osod yr adlenni. Mae Cam 1 bron wedi’i gwblhau gyda 10 siop yn elwa o’r cynllun a ariannwyd yn rhannol gan Gyngor Tref Rhuddlan. Mae’r adlenni hyn yn gwella ymddangosiad y siopau ac maent hefyd yn darparu cysgod i bobl sy’n aros i fynd i mewn i siopau yn y byd cofid hwn. Mae Cam 2 ar y gweill a chyflwynwyd ceisiadau grant i wneud 10 siop arall. Edrychwch ar wefan y Cyngor Tref www.rhuddlantowncouncil.gov.uk a Facebook am fanylion pellach.
Yn gynwysedig yn y lluniau mae’r Cynghorwyr Sir Ann Davies ac Arwel Roberts, Maer Rhuddlan, y Cynghorydd Mike Elgin, Jacqui Bell o’r Little Flowermonger a Chris Kewin o’r Little Cheesemonger


