CADWCH YN WYBODUS

Campfa Awyr Agored Rhuddlan yng Nghae’r Llyngesydd

Community Events

Rhannwch y Post:

Campfa Awyr Agored Rhuddlan yng Nghae’r Llyngesydd

Mae dau ddarn newydd o offer wedi’u gosod yng nghampfa awyr agored Rhuddlan yng Nghae’r Llyngesydd.  Y rhain yw’r disgiau Tai Chi i blant a mainc eisteddiadau i blant.  Cafodd yr offer eu gosod yn ardal y gampfa awyr agored a’r gobaith yw y bydd preswylwyr o bob oedran yn defnyddio’r offer i wella eu ffitrwydd a’u lles. Cafodd y prosiect ei ariannu ar y cyd gan gronfa symiau gohiriedig Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Tref Rhuddlan. Cadwch lygad am ddosbarthiadau cadw’n heini a fydd yn cael eu cynnal yn y gampfa yn y gwanwyn. Mae’r lluniau yn dangos Maer Rhuddlan, Mike Elgin, yn rhoi cynnig ar yr offer newydd.