CADWCH YN WYBODUS

Cefnogaeth i gofnodi profiadau pobl hŷn o wasanaethau Meddygon Teulu

Community Events

Rhannwch y Post:
Cefnogaeth i gofnodi profiadau pobl hŷn o wasanaethau Meddygon Teulu Mae sut mae pobl hŷn yn cael gafael ar wasanaethau meddygon teulu yn broblem ers tro byd, ac mae fy ngwaith ymchwil diweddar wedi canfod bod dros 40% o bobl hŷn yn llai tebygol o geisio cael apwyntiad meddyg teulu neu gysylltu â meddyg teulu y tu allan i oriau oherwydd bod adroddiadau am y pwysau sydd ar y GIG. Mae’r ffaith bod rhai gwasanaethau wedi newid i fod yn rhai digidol, boed hynny ar-lein neu dros y ffôn, wedi bod yn ddefnyddiol i rai pobl ond wedi creu rhwystrau i bobl eraill, yn enwedig pobl sydd wedi’u hynysu a heb neb wrth law i’w helpu. I ddysgu mwy am y mathau o broblemau a heriau sy’n wynebu pobl hŷn wrth gael gafael ar wasanaethau meddygon teulu, rydw i’n gwahodd pobl hŷn i rannu eu profiadau gyda mi drwy lenwi arolwg syml. Online Questionaire: Complete Questionaire Download Questionaire: Download PDF