Commemoration Service
Cynhaliodd Cyngor Tref Rhuddlan Wasanaeth Coffa ar y 15fed o Awst i nodi Diwrnod y Fuddugoliaeth yn Japan (75 mlynedd yn ôl), sef y diwrnod yr ildiodd Japan yn yr Ail Ryfel Byd, gan ddod â’r rhyfel i ben i bob pwrpas.
Dywedodd y Maer, y Cynghorydd Arwel Roberts “roedd trigolion Rhuddlan ac aelodau’r Cyngor Tref yn awyddus i gynnal gwasanaeth i dalu eu parch. Diolch i bawb a gefnogodd y gwasanaeth ac a barchodd y mesurau pellhau cymdeithasol a roddwyd”. Codwyd £ 115 at achos da’r Maer – y Lleng Brydeinig Frenhinol. Cafodd y goleuadau yn y Castell ac Eglwys y Santes Fair eu goleuo mewn coch i nodi’r coffâd.
Diolch i Barrie Mee, Will Evans a Helen Partridge am y lluniau.






