Croeso nôl i’ch Llyfrgell a Siop Un Alwad lleol
Bydd llyfrgelloedd ar draws Sir Ddinbych yn ail-agor eu drysau o ddydd Llun Mawrth 29ain ar gyfer pori i ddewis llyfrau, i ddefnyddio cyfrifiadur ac argraffu, i gael mynediad i wasanaethau Siopau Un Alwad. I sicrhau ymweliad diogel, bydd angen i gwsmeriaid ffonio eu llyfrgell leol i drefnu apwyntiad i ymweld.
Mae llyfrgelloedd yn lefydd diogel i ymweld gyda digon o le ar gyfer ymbellhau cymdeithasol, niferoedd cyfyngedig o bobl ar y tro, a glanweithydd dwylo ac offer ar gael. Mae llyfrau sy’n cael eu dychwelyd yn cael eu rhoi mewn cwarantîn an 72 awr.
Bydd ymweliad i bori a dewis llyfrau yn 20 munud o hyd, a sesiwn ar gyfrifadur yn 45 munud, unwaith yr wythnos, ar hyn o bryd. Byddwch angen eich cerdyn llyfrgell i drefnu sesiwn cyfrifiadur.
Os ydych angen cymorth y Siop Un Alwad gydag ymholiad Cyngor neu i wneud taliad, ffoniwch y llyfrgell gan sicrhau fod gennych yr holl fanylion, er mwyn i ni fedru delio gyda’ch ymholiad a threfnu apwyntiad os byddwch angen galw mewn.
Bydd y gwasanaeth Archebu a Chasglu poblogaidd yn parhau os ydi hi’n well gennych chi i staff llyfrgell ddewis llyfrau i chi eu casglu neu cael eu danfon atoch. Mae’r Gwasanaeth Llyfrgell Cartref yn danfon llyfrau at unrhyw un sy’n methu dod i’w llyfrgell leol – ffoniwch y llyfrgell neu ewch i’r wefan i wybod mwy am y gwasanaeth hwn.
Er mwyn ail-lenwi’r silffoedd, gofynnir i chi ddychwelyd unrhyw lyfrau sydd ar fenthyg gennych trwy eu gollwng yn y llyfrgell. Mae’r holl lyfrau sydd ar fenthyg yn cael eu hadnewyddu yn awtomatig ac ni fyddwch yn cael eich dirwyo hyd yn oed os ydynt gennych ers misoedd.
Cofiwch y gallwch ymuno â’r llyfrgell, archebu llyfrau a lawrlwytho e-lyfrau, e-lyfrau llafar, cylchgronnau a phapurau newydd am ddim – ewch i http://www.sirddinbych.gov.uk/llyfrgelloedd
