Mae Gwobr Aelwyn Morgan yn cael ei chyflwyno’n flynyddol gan Gyngor Tref Rhuddlan i unigolyn neu unigolion sydd wedi gwneud gwaith eithriadol yn ein cymuned leol. Roedd Aelwyn Morgan yn gyn-bennaeth Ysgol y Castell ac roedd pawb a oedd yn ei adnabod yn ei edymygu’n fawr; gwnaeth gyfraniad sylweddol i’n cymuned ac mae’r wobr hon er cof amdano.
Mae’r cyngor yn falch iawn o gyhoeddi mai enillydd 2024 yw Maggie Thompson-Williams. Cafodd Maggie ei henwebu i gydnabod ei gwaith caled yng nghymuned Rhuddlan. Mae Maggie wedi gwirfoddoli a helpu yng Nghlwb Strôc Rhuddlan am 16 blynedd, gan baratoi cinio a helpu i gynnal gweithgareddau eistedd a chadw’n heini. Bob tro bydd y Clwb Strôc yn cyfarfod, mae Maggie yn gwirfoddoli am ddiwrnod cyfan yn y Ganolfan Gymunedol.
Dros y 5 mlynedd diwethaf mae Maggie a dwy wraig arall wedi sefydlu clwb cinio o’r enw “GEMs” – sef priflythrennau’r tair – a gaiff ei gynnal bob pythefnos. Cynhelir y clwb cinio bob yn ail ddydd Gwener ac mae’n denu tua 30 o bobl; mae llawer ohonynt yn bobl oedrannus, yn anabl, neu’n byw ar eu pen eu hunain, felly mae’r digwyddiad hwn yn uchafbwynt i lawer. Mae Maggie a’r merched eraill yn paratoi’r cinio, yn gweithio yn y gegin, ac yna’n helpu i drefnu cwis a dathlu pen-blwyddi, sy’n boblogaidd iawn gyda phawb. Unwaith yn rhagor, mae’r digwyddiad hwn yn golygu bod Maggie yn gwirfoddoli am ddiwrnod cyfan yn y Ganolfan Gymunedol.
Mae’r Ganolfan Gymunedol yn lleoliad poblogaidd iawn i gynnal llawer o ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn ac mae Maggie yn gwirfoddoli ac yn helpu’r staff a’r ymddiriedolwyr i gynnal y digwyddiadau hyn. Mae’r rhain yn cynnwys y Farchnad Gymunedol, digwyddiad Sul y Cofio, Carolau o amgylch y Goeden Nadolig a drefnir gan Gyngor y Dref, a llawer o ddigwyddiadau eraill. Teg yw dweud bod Maggie yn treulio llawer o’i hamser yn y Ganolfan Gymunedol yn gwirfoddoli ac yn helpu i wneud y Ganolfan yn ganolbwynt i gymuned fywiog Rhuddlan.
Yn ogystal â hyn, mae Maggie wedi dechrau chwarae bowlio lawnt gefngrom yng nghlwb bowlio Rhuddlan yn ddiweddar. Mae hi wedi cymryd at y gêm fel hwyaden at ddŵr, ond wrth gwrs nid yw Maggie wedi bod yn fodlon ymlacio a mwynhau’r gêm yn unig, mae hi hefyd wedi bod yn rhoi help llaw i gynnal llawer o ddigwyddiadau’r clwb. Yn ei hamser hamdden, mae Maggie wedi cwblhau cwrs Bwyd a Hylendid ac wedi ennill y gwahanol dystysgrifau angenrheidiol er mwyn helpu’r clwb i ddarparu cyfleusterau arlwyo ar gyfer amrywiol ddigwyddiadau.
Mae Maggie yn enillydd haeddiannol ac fe gyflwynwyd y wobr hon iddi gan Faer Rhuddlan Val Simmons yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Tachwedd. Dywedodd y Maer Val Simmons “Mae’r wobr hon yn cael ei rhoi i bobl sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i gymuned ein tref. Heb os, mae Maggie yn enghraifft wych o hyn. Pleser ac anrhydedd yw cyflwyno’r wobr hon i Maggie Thompson-Williams”.

