Cyngor Tref Rhuddlan yn Cydnabod Gwasanaeth Gwych i’r Sgowtiaid
Yng nghyfarfod Cyngor Tref Rhuddlan ym mis Chwefror, cafwyd cyflwyniad arbennig i gydnabod gwasanaeth anhygoel Carol a Malcolm Boyton i fudiad y Sgowtiaid. Dechreuodd Carol a Malcolm wirfoddoli yn eu sesiwn sgowtiaid cyntaf dros 25 mlynedd yn ôl. Roeddynt wedi dod yno i gynnig help llaw am un sesiwn yn unig, ond maent wedi bod yn Arweinwyr Sgowtiaid Rhuddlan am dros 25 mlynedd. Roedd y cyngor yn awyddus i gydnabod eu cyfraniad eithriadol a chyflwynwyd decanter wedi’i engrafio i Malcolm a Carol.
Dywedodd Maer Rhuddlan, y Cynghorydd Mike Kermode “Un o fy themâu allweddol yw cymeradwyo gwaith da gwirfoddolwyr, gallant wneud gwahaniaeth mor gadarnhaol yn y gymuned. Heb os, mae’n bwysig ein bod yn cymeradwyo cyfraniadau Malcolm a Carol Boyton. Rwyf yn gwybod o brofiad bod pobl ifanc yn elwa llawer ar fod yn rhan o fudiad y Sgowtiaid. Diolch yn fawr iawn i Malcolm a Carol, rydych chi wedi gwneud gwaith gwych ac rydych chi’n haeddu’r wobr hon gan y Cyngor. ”
Yn y llun o’r chwith i’r dde mae Maer Rhuddlan, y Cynghorydd Mike Kermode, Amy Davies, Malcolm a Carol Boyton a’r Faeres Sue Kermode

