Cystadleuaeth Ffenestri Dydd Gwyl Ddewi 2021
Annwyl berchennog / rheolwr,
Fel y gŵyr llawer ohonoch, mae Menter Iaith Sir Ddinbych yn cynnal cystadleuaeth ffenestri Dydd Gŵyl Dewi i fusnesau yn flynyddol, a hynny diolch i gefnogaeth Cyngor Tref Dinbych.
Eleni, oherwydd y cyfyngiadau Covid, mae cynnal cystadleuaeth o’i fath yn fwy heriol, gyda siopau ar gau a chyfyngiadau teithio, ond rydym yn awyddus i barhau i’w gynnal er mwyn codi calon. Felly rydym wedi penderfynu addasu’r gystadleuaeth i gynnwys pennawd tudalennau gwefan neu facebook busnesau yn ogystal â ffenestri.
Gweler ynghlwm, ffurflen gofrestru, gan obeithio y bydd y gystadleuaeth o ddiddordeb i chi. Nodwch y dyddiad cau ar gyfer cofrestru : 21 Chwefror
Bydd enillydd eleni yn derbyn hamper o nwyddau Cymreig a thaleb am wasanaeth cyfieithu 1000 o eiriau, gyda ail a thrydydd yn derbyn gwobrau o flodau a thaleb cyfieithu.
Hoffem hefyd dynnu eich sylw at wasanaethau Helo Blod Lleol a all ddarparu cefnogaeth i fusnesau fod eisiau defnyddio mwy o’r Gymraeg o fewn eu cynnig busnes. (e.e. gellir cyfieithu hyd at 500 gair bob mis yn rhad ac am ddim). Gweler >>> https://businesswales.gov.wales/heloblod/cy
