CADWCH YN WYBODUS

Datganiad newyddion gan Gyngor Sir Ddinbych 2021

Community Events

Rhannwch y Post:
Mae Sir Ddinbych wedi lansio ail gam yr ymgynghoriad ynghylch teithio llesol. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda Sustrans Cymru fel rhan o ymgynghoriad Map Rhwydwaith Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ynghylch gwella llwybrau cerdded a beicio yn y sir.

Datganiad newyddion gan Gyngor Sir Ddinbych 2021

Yr ail gam ymgynghori ynghylch llwybrau cerdded a beicio Sir Ddinbych Mae Sir Ddinbych wedi lansio ail gam yr ymgynghoriad ynghylch teithio llesol. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda Sustrans Cymru fel rhan o ymgynghoriad Map Rhwydwaith Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ynghylch gwella llwybrau cerdded a beicio yn y sir. Ymatebodd 375 o bobl i’r cam cyntaf, a chafwyd 456 o sylwadau. Defnyddiwyd yr adborth yma i lunio cynlluniau drafft ar gyfer y Rhyl, Prestatyn, Gallt Melyd, Dyserth, Rhuddlan, Bodelwyddan, Llanelwy, Dinbych, Rhuthun, Corwen a Llangollen. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar 11 tref yn Sir Ddinbych, wedi’u dewis gan Lywodraeth Cymru fel ardaloedd dynodedig y sir. Mae’r cynlluniau drafft yn dangos y llwybrau sydd eisoes yn cyrraedd y safonau teithio llesol, llwybrau sydd angen eu gwella er mwyn iddyn nhw gyrraedd y safon a llwybrau newydd yr hoffem ni eu creu yn ystod y pymtheg mlynedd nesaf. Rydym ni rŵan yn gofyn a fydd y llwybrau cerdded a beicio arfaethedig yn eich helpu chi i deithio o gwmpas eich ardal ar droed neu feic yn amlach ac, os ddim, pa welliannau eraill sydd eu hangen. Am fwy o wybodaeth a sut i ddarparu adborth ewch i  https://denbighshire2.commonplace.is/#