Annog trigolion wedi’u heffeithio gan lifogydd yn ddiweddar i gysylltu â’r Cyngor
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi trigolion sydd wedi cael llifogydd yn eu cartrefi’n ddiweddar yn ystod Storm Christoph.
Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn disgwyl am fwy o fanylion am y gronfa mae Llywodraeth Cymru’n ei darparu ar gyfer trigolion cymwys, ond mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y taliad arfaethedig yn £500 gyda £500 ychwanegol i’r rhai heb yswiriant.
Yn y cyfamser, mae trigolion Sir Ddinbych a gafodd lifogydd yn eu cartrefi’n ddiweddar yn cael eu hannog i gysylltu â Chanolfan Gyswllt y Cyngor ar 01824 706000 i gofnodi eu manylion cyswllt.
Dywedodd y Cyng. Brian Jones, Aelod Arweiniol y Cyngor ar Wastraff, Cludiant a’r Amgylchedd: “Rydyn ni’n meddwl am y trigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan y tywydd garw a’r llifogydd yn ddiweddar.
“Rydyn ni am eu sicrhau nhw ein bod ni’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac rydyn ni’n annog y trigolion i gysylltu â’r Cyngor i roi eu manylion, fel y gallwn ni gysylltu â nhw pan mae mwy o fanylion am y gronfa wedi’u cyhoeddi.”
