CADWCH YN WYBODUS

Diolch i Beti Noel Jones

Community Events

Rhannwch y Post:
Achlysur trist ond eto pleser oedd cyflwyno diolch. Yn y llun gwelir Dr Wong, Y Cynghorydd Sir,Ann Davies, Maer Rhuddlan a’r Cynghorydd Sir,Arwel Roberts, Mrs Beti Noel Jones, Dr Rachael Reed a Mrs Awen Roberts gwraig y Maer. Pleser oedd bod yn bresennol mewn achlysur o flaen y feddygfa yn RHUDDLAN. Cyfle oedd hwn i ddiolch i Mrs Jones am ei gweithgarwch yn casglu arian i brynu cyfarpar meddygol i’r doctoriaid a’r staff.

Diolch i Beti Noel Jones

Achlysur trist ond eto pleser oedd cyflwyno diolch. Yn y llun gwelir Dr Wong, Y Cynghorydd Sir,Ann Davies, Maer Rhuddlan a’r Cynghorydd Sir,Arwel Roberts, Mrs Beti Noel Jones, Dr Rachael Reed a Mrs Awen Roberts gwraig y Maer. Pleser oedd bod yn bresennol mewn achlysur o flaen y feddygfa yn RHUDDLAN. Cyfle oedd hwn i ddiolch i Mrs Jones am ei gweithgarwch yn casglu arian i brynu cyfarpar meddygol i’r doctoriaid a’r staff. Casglwyd dros £4,200 gan Mrs Jones dros gyfnod o dair blynedd ar ddeg, trwy werthu llyfrau yn y feddygfa yn bennaf. Oherwydd y Cyfnod Cloi bu rhaid gorffen  y weithgaredd. “ Mae diwydrwydd Mrs Jones wedi bod yn esiampl i ni gyd” meddai’r Maer.”Fel Maer a Maeres rydym yn ddiolchgar iawn i Mrs Jones gan fod y feddygfa hon yn bwysig iawn i drigolion y dref, ac fel dau sydd angen cymorth Dr Reed a Dr Wong a gweithwyr meddygol y feddygfa ar brydiau fel cleifion,rydym  yn siwr o gefnogi y feddygfa ymhellach.” Letter By Beti Noel-Jones, Treasurer