Dweud Eich Dweud ar Ganol Trefi yn Ailagor
Mae arolwg bellach wedi’i drefnu i gael barn busnesau a defnyddwyr yng nghanol trefi ledled Sir Ddinbych, wythnos ar ôl i rai siopau agor eu drysau.
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Cyngor Sir Ddinbych fod Grŵp Gorchwyl wedi’i sefydlu i gefnogi busnesau canol trefi yn ystod ac ar ôl ailagor siopau, gan weithio ar y cyd â chymdeithasau busnes a chymunedau lleol. Mae gan y Cyngor dimau o gwmpas yn ein prif ganol trefi hefyd, yn monitro cydymffurfiad â chanllawiau diogelwch, yn ogystal â chynnig cefnogaeth ymarferol i fusnesau, fel arwyddion neu bosteri.
Mae’r Cyngor wedi cynhyrchu arolwg byr i ddarganfod sut brofiad oedd y broses ailagor i fusnesau ac ymwelwyr/trigolion. Bydd yr adborth yn cael ei fwydo’n ôl i drafodaethau ynghylch pa gamau y bydd y Cyngor a’i bartneriaid yn eu cymryd nesaf.
Dywedodd Arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE, sydd hefyd yn Aelod Arweiniol dros yr Economi: “Am fwy na thri mis, bu canol trefi – calon llawer o’n cymunedau – yn llonydd ac yn dawel. Roedd busnesau ar gau a gofynnwyd i ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd aros gartref ac oddi wrth eraill nes i bethau ddod yn well.
“Mae llacio cyfyngiadau ar fusnesau canol trefi yn gam i’r cyfeiriad cywir ac mae’r Cyngor yn falch iawn o weithio gyda’r cymdeithasau busnes a chymunedau ledled Sir Ddinbych i sicrhau bod y gwaith o ailgyflwyno gwasanaethau yn digwydd yn ddidrafferth. Mae’r adborth hyd yma wedi bod yn gadarnhaol iawn a bydd y gefnogaeth yn parhau wrth i fusnes barhau i ail-sefydlu eu hunain.
Meddai’r Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol y Cabinet ar gyfer Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel: “Mae gwrando ar farn busnesau a defnyddwyr yn hanfodol wrth i ni weithio gyda’n gilydd i hyrwyddo’r economi leol.
“Rydym yn cydnabod bod llawer o fusnesau a chymunedau wedi teimlo rhyddhad a chyffro wrth obeithio y bydd busnesau’n agor, gydag eraill yn teimlo’n bryderus ynghylch meddwl dychwelyd i’r gwaith neu ymweld â chanol tref – hyd yn oed os yw’n hanfodol.
“Mae’r cyfan yn dibynnu ar gael deialog iawn gyda phobl fel y gallwn gynorthwyo canol trefi i ymgartrefu yn y ffyrdd newydd o weithio a chynorthwyo’r ymdrechion i amddiffyn ein cymunedau”.
Gellir dod o hyd i’r arolwg yn: http://www.sirddinbych.gov.uk/sgwrsysir

