CADWCH YN WYBODUS

Dyddiad cau cais Cynllun Setliad yr DU (30-Mehefin)

Community Events

Rhannwch y Post:
Sefydlwyd Cynllun Setliad yr UE o dan delerau y cytundeb a wnaeth y DU wrth adael yr UE, mae’n berthnasol i ddinasyddion yr UE ac EFTA a ddaeth i’r DU cyn diwedd y cyfnod Pontio Brexit ar ddiwedd mis Rhagfyr 2020. Mae trefniadau tebyg yn berthnasol ar gyfer dinasyddion y DU sy'n byw ac yn gweithio ar gyfandir Ewrop.

Dyddiad cau cais Cynllun Setliad yr DU (30-Mehefin)

Sefydlwyd Cynllun Setliad yr UE o dan delerau  y cytundeb a wnaeth y DU wrth adael yr UE, mae’n berthnasol i ddinasyddion yr UE ac EFTA a ddaeth i’r DU cyn diwedd y cyfnod Pontio Brexit ar ddiwedd mis Rhagfyr 2020. Mae trefniadau tebyg yn berthnasol ar gyfer dinasyddion y DU sy’n byw ac yn gweithio ar gyfandir Ewrop. Mae angen i drigolion yr UE ac EFTA yn y DU yr effeithir arnynt gan hyn wneud cais os ydynt yn dymuno cadw eu hawliau i fyw, gweithio ac astudio yn y DU. Nid yw rhai pobl yn ymwybodol bod hyn yn berthnasol iddynt, gan gynnwys hyd yn oed rhai cyn-filwyr oedrannus yr Ail Ryfel Byd a ddaeth i’r DU ymhell cyn i’r DU ymuno â’r UE. Yn ogystal, mae angen i blant rhai sy’n cyrraedd yn fwy diweddar, sydd wedi sicrhau hawliau i fyw a gweithio yn y DU, gael ceisiadau unigol ar eu rhan er mwyn sicrhau y byddant yn gallu cael mynediad at ofal iechyd ac addysg yn y dyfodol.   Mae fideo fer (3-4 munud o hyd) sy’n darparu trosolwg o Gynllun Setliad yr UE a rhai o’r materion dan sylw ar gael ar YouTube gan ddefnyddio’r dolenni a ddarperir waelod yr e-bost hwn: Am wybodaeth bellach cysylltwch â: English:       Edmund Sides        email:   edmund.sides@gmail.com Cymraeg:   Gareth Roberts     e-bost: garethwr@hotmail.com