Dyfeisiau Dangos Cyflymder – A547 Ffordd y Rhyl a’r A547 Ffordd Abergele
Yn 2021, gosododd Cyngor Tref Rhuddlan mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych dwy ddyfais dangos Cyflymder (SIDs) fel rhan o’u hymrwymiad i wella diogelwch i gerddwyr a ffyrdd yn y dref. Mae’r dyfeisiau hyn ar Ffordd y Rhyl ger Lôn y Pentref a Ffordd Abergele ger Morfa Lodge wedi arwain at ostwng cyflymder cyfartalog cerbydau sy’n defnyddio’r ffyrdd hyn.
Ar Ffordd y Rhyl, lle mae terfyn cyflymder o 30mya, mae’r cyflymder cyfartalog wedi gostwng o 31mya i 25.9mya. Mae’r cyflymder 85%* wedi gostwng o 36.4mya i 30.9mya.
Ar Ffordd Abergele, lle mae terfyn cyflymder o 40mya, mae’r cyflymder cyfartalog wedi gostwng o 33mya i 30.3mya. Mae’r cyflymder 85%* wedi gostwng o 39mya i 31.1mya.
*Y cyflymder 85 canradd yw’r cyflymder mae 85% o yrwyr yn gyrru arno, neu’n gyrru’n arafach nag ef
Mae Cyngor Tref Rhuddlan yn bwriadu gosod tair dyfais ychwanegol ar ffyrdd i mewn ac allan o’r dref yn ddiweddarach eleni. Bydd hyn yn helpu i ostwng cyflymder ar ein prif ffyrdd ynghyd â mesurau i gyflwyno terfyn cyflymder o 20mya mewn ardaloedd dinesig ar draws Cymru maes o law.
