GoleuoCymruiGofio
Heno, ynghyd â Hamdden Sir Ddinbych Cyf, byddwn yn goleuo rhai o’n hadeiladau yn felyn (Tŵr Awyr Y Rhyl, Bwyty 1891, Theatr Pafiliwn Y Rhyl, a llochesi traeth) fel esiampl genedlaethol o gofio i’r rhai sydd wedi colli eu bywydau yn ystod y pandemig ac i ddiolch unwaith eto i’n gweithwyr GIG, gweithwyr rheng flaen a’n holl staff gwych. Bydd heddiw’n rhoi amser inni fyfyrio ar y 12 mis diwethaf sydd wedi bod yn anodd i lawer ohonom, am wahanol resymau. Beth am daflu goleuni yn eich ffenestr heno neu ymuno ar eich stepen drws gyda golau am 8pm i gofio, ar Ddiwrnod Adlewyrchu Cenedlaethol.
#GoleuoCymruiGofio
Ar ran Cyngor Sir Ddinbych, mae’r Cadeirydd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies a’r Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, yn diolch i’r trigolion am eu hymdrechion ar ben-blwydd cyntaf y cyfyngiadau clo ledled y DU. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Hugh Evans OBE: “Mae wedi bod yn 12 mis anodd iawn ers i’r cyfnod clo cyntaf gael ei gyflwyno ar draws y DU, ac yn y flwyddyn diwethaf mae pob rhan o’n cymdeithas wedi ei heffeithio. “Mae llawer o bobl wedi eu heffeithio gan y coronafeirws ac rydym yn meddwl am, ac yn cydymdeimlo gyda’r teuluoedd sydd wedi colli un annwyl iddynt. “Mae trigolion Sir Ddinbych i’w canmol am eu hymdrech anferth i atal lledaeniad y feirws drwy ddilyn y rheoliadau a’r canllawiau. Mae eich aberth wedi helpu i leihau effaith y pandemig yn ein cymunedau, ac wedi helpu i achub bywydau. “Hoffwn hefyd ddiolch i’r gweithwyr rheng flaen sydd wedi bod yn gwarchod ac yn cefnogi trigolion, y rheiny sydd yn rhan o weinyddu’r brechlyn, ein partneriaid gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi bod yn gweithio’n agos gyda ni i gadw pobl yn ddiogel, yn ogystal â phawb sydd wedi gweithio drwy gydol y pandemig i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn Sir Ddinbych. “Daeth nifer fawr o wirfoddolwyr ynghyd yn ein cymunedau yn ystod y pandemig i helpu ein trigolion mwyaf diamddiffyn, gan wneud pethau fel siopa a chasglu presgripsiwn, ac mae nhw hefyd yn haeddu ein diolch am eu gwaith caled. “Drwy gydol y cyfnod hwn mae’r Cyngor wedi parhau i weithio er lles ein trigolion, gan ddarparu gwasanaethau o dan amgylchiadau anodd, ac mae hyn wedi cynnwys ffyrdd newydd o weithio, ac addasu. “Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i blant yn ogystal â rhieni, gofalwyr, a staff yn ein hysgolion. Wrth i ddisgyblion ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb mae’n bwysig ein bod yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau fod ysgolion yn aros ar agor. Mae hyn yn cynnwys dilyn y rheoliadau, sydd yn cynnwys peidio cymysgu y tu allan i’r ysgol neu ger giatau’r ysgol wrth ollwng y plant yno neu eu casglu ar ddiwedd y dydd. “Mae’r cyfnod clo wedi cael effaith anferth ar fusnesau yn Sir Ddinbych ac rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau fod y cymorth sydd ar gael yn cyrraedd y rheiny sydd ei angen cyn gynted â phosib. Byddwn yn parhau i sicrhau ein bod yn gwneud poeth posib i gefnogi busnesau yn Sir Ddinbych wrth iddynt gychwyn ail-agor. “Mae’r broses o frechu wedi bod yn llwyddiant mawr ac mae’n lleihau lledaeniad y feirws, a gobeithiwn y byddwn yn gweld mwy o gyfyngiadau yn cael eu codi dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Ond yn y cyfamser, mae’n hanfodol ein bod i gyd yn parhau i ddilyn y rheoliadau i wneud yn siŵr fod trosglwyddiad y feirws yn parhau’n isel, er mwyn caniatáu bywyd i gychwyn dychwelyd i’r arfer.”

