Gosod Tair Dyfais Dangos Cyflymder Ychwanegol ar Ffyrdd Rhuddlan
Mae Cyngor Tref Rhuddlan gyda chymorth Cyngor Sir Dinbych wedi gosod tair arwydd newydd sy’n dangos cyflymder cerbydau er mwyn annog gyrwyr i arafu a gyrru ar gyflymder o dan y cyfyngiad cyflymder. Mae dwy ddyfais ar yr A547 Ffordd Alltmelyd ac mae’r llall ar yr A547 Ffordd y Rhyl ger y gyffordd â Ffordd yr Ucheldir.
Mae’n hysbys bod dyfeisiau o’r fath yn gostwng cyflymder cerbydau drwy atgoffa gyrwyr o’u cyflymder teithio a hefyd dangos a ydynt yn gyrru’r rhy gyflym. Mae lleihau cyflymder yn atal damweiniau a difrifoldeb unrhyw anafiadau.
Mae Cyngor Tref Rhuddlan yn awyddus iawn i wella diogelwch ein ffyrdd ar gyfer gyrwyr a cherddwyr ac mae’n gweithio gyda’r tîm heddlu lleol i nodi ardaloedd ar gyfer gosod cerbydau Gan Bwyll. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu syniadau, mae croeso i chi gysylltu â chlerc y dref drwy e-bostio clerk@rhuddlantowncouncil.gov.uk



