Grŵp Cymunedol Rhuddlan
Os buoch chi’n crwydro yng nghyffiniau maes chwarae Coetiau Postol yn ddiweddar, efallai ichi sylwi ar gylch o goed a blannwyd gerllaw’r llwybr troed sy’n arwain at Stryd y Gwindy, yn ogystal â dwy goeden ceirios flodeuol ger y fainc ar yr un llwybr.
Mae hon yn fenter gan Grŵp Cymunedol Rhuddlan, gyda sêl bendith Cyngor Tref Rhuddlan, i greu ‘Gardd Goffa’ i gydnabod ymrwymiad anhunanol ein gweithwyr rheng flaen, ynghyd â chofio, gyda thristwch, y rhai hynny a gollwyd yn ystod cyfnod y pandemig, am ba bynnag reswm.
Dymunai’r Grŵp Cymunedol fynegi eu diolch diffuant i’n Co-op lleol a’u cwsmeriaid sydd, trwy gyfrannau at eu Cronfa Gymunedol, wedi gwireddu’r prosiect hwn.
Dydy’r prosiect ddim eto wedi’i gwblhau, gan fod y cynllun yn cynnwys mainc wrth ymyl y cylch coed ac rydyn ni newydd glywed, yn dibynnu ar y lleoliad, fod hyn hefyd wedi’i gymeradwyo gan Gyngor Tref Rhuddlan.


