CADWCH YN WYBODUS

Gwaith yn mynd Rhagddo ar Ddatblygiad Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych yn Y Rhyl

Community Events

Rhannwch y Post:

Gwaith yn mynd Rhagddo ar Ddatblygiad Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych yn Y Rhyl

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnig y cyfle i bobl rannu adborth ar ddatblygiad newydd Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych. Er gwaethaf y pandemig COVID-19,mae’r Bwrdd Iechyd wedi parhau i weithio gyda’u partneriaid, Kier and Gleeds, ar ddatblygiad yr ysbyty newydd. Bydd cynlluniau ar gyfer yr ysbyty newydd ac ailwampio Ysbyty Brenhinol Alexandra yn cael eu cyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych ym Mehefin. Cyn hyn, mae’r Bwrdd Iechyd yn gwahodd preswylwyr i weld y cynnydd a wnaed hyd yn hyn eleni a bod yn rhan o rannu barn a syniadau ynghylch y prosiect hwn. Cynhyrchwyd fideo hedfan drwodd i roi syniad o sut bydd yr ysbyty yn edrych wedi iddo gael ei gwblhau. Hefyd, rhyddhawyd argraffiad artistig o’r gwaith a wnaed gan Kier and Gleeds i ailgynllunio’r ysbyty, gan ddangos lleoliad yr ysbyty sydd newydd ei ailgynllunio y tu ôl i’r Ysbyty Brenhinol Alexandra presennol. Gellir cael mynediad at y fideo hedfan drwodd a’r argraffiad artistig ar wefan y Bwrdd Iechyd yma. Gall unrhyw un sy’n dymuno rhannu adborth am y prosiect wneud hyn drwy ddefnyddio’r arolwg hwn. Y dyddiad olaf i gymryd rhan yn yr arolwg hwn yw 17 Mehefin 2020. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a: gdandch@gillingdod.comMae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnig y cyfle i bobl rannu adborth ar ddatblygiad newydd Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych. Er gwaethaf y pandemig COVID-19,mae’r Bwrdd Iechyd wedi parhau i weithio gyda’u partneriaid, Kier and Gleeds, ar ddatblygiad yr ysbyty newydd. Bydd cynlluniau ar gyfer yr ysbyty newydd ac ailwampio Ysbyty Brenhinol Alexandra yn cael eu cyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych ym Mehefin. Cyn hyn, mae’r Bwrdd Iechyd yn gwahodd preswylwyr i weld y cynnydd a wnaed hyd yn hyn eleni a bod yn rhan o rannu barn a syniadau ynghylch y prosiect hwn. Cynhyrchwyd fideo hedfan drwodd i roi syniad o sut bydd yr ysbyty yn edrych wedi iddo gael ei gwblhau. Hefyd, rhyddhawyd argraffiad artistig o’r gwaith a wnaed gan Kier and Gleeds i ailgynllunio’r ysbyty, gan ddangos lleoliad yr ysbyty sydd newydd ei ailgynllunio y tu ôl i’r Ysbyty Brenhinol Alexandra presennol. Gellir cael mynediad at y fideo hedfan drwodd a’r argraffiad artistig ar wefan y Bwrdd Iechyd yma. Gall unrhyw un sy’n dymuno rhannu adborth am y prosiect wneud hyn drwy ddefnyddio’r arolwg hwn. Y dyddiad olaf i gymryd rhan yn yr arolwg hwn yw 17 Mehefin 2020. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a: gdandch@gillingdod.com