Gwobr Aelwyn Morgan 2021
Mae Gwobr Aelwyn Morgan 2021 yn mynd i gyd-enillwyr: Mrs Sandra Jones a Mrs Awen Roberts a Mr Arwel Roberts am eu gwaith caled yn y gymuned.
Mae Mrs Sandra Jones yn gymeriad poblogaidd iawn yn y gymuned ac mae ei rôl yn cyflwyno presgripsiynau ar gyfer y fferyllydd lleol yn mynd ymhell y tu hwnt i hynny. Mae hi’n piciad i fewn i weld bobl, yn dangos caredigrwydd, yn bywiogi eu diwrnod ac yn defnyddio ei hamser ei hun i’w cynorthwyo, er enghraifft codi nwyddau neu eitemau eraill sydd eu hangen yn fawr a’u gollwng. Disgrifir Sandra fel y heulwen. Mae ei phersonoliaeth fyrlymus yn heintus ac yn dod â llawenydd i bawb y mae’n eu cyfarfod.
Yn ogystal â bod yn Gynghorydd Sir a Chynghorydd Tref am nifer o flynyddoedd, mae gan Arwel nifer o rolau gwirfoddol sy’n mynd y tu hwnt i fod yn gynghorydd. Er enghraifft. Mae Arwel yn Gadeirydd grŵp Dementia Rhuddlan sy’n gwneud cynnydd rhagorol wrth wneud Rhuddlan yn dref sy’n gyfeillgar i ddementia. Mae gwaith bellach yn mynd ymlaen yn y Warchodfa Natur i ddarparu gardd synhwyraidd i’r rhai sy’n byw gyda dementia.
Mae Awen & Arwel yn gweithio’n galed i godi arian at achosion lleol a hefyd i godi arian ar gyfer yr Urdd Cenedlaethol a’r Eisteddfod. Mae Awen yn ymwneud â Chylchgrawn poblogaidd Y Glannau yn helpu gydag adrodd, golygu a chyfieithu. Cytunodd Awen ac Arwel i weithio am ail flwyddyn fel Maer a Maeres, trwy’r gwaethaf o’r pandemig ac maent yn llawn haeddu cael eu cydnabod.
Dywedodd y Maer, y Cynghorydd Mike Elgin fod y derbynwyr “mor haeddiannol o’r wobr hon ac sy’n gredyd. Mae Rhuddlan yn ffodus iawn i gael gwirfoddolwyr mor ymroddedig ”.

