Gwobr Aelwyn Morgan 2022
Mae Gwobr Aelwyn Morgan yn cael ei chyflwyno’n flynyddol gan Gyngor Tref Rhuddlan i unigolyn neu unigolion sydd wedi gwneud gwaith eithriadol yn ein cymuned leol. Roedd Aelwyn Morgan yn gyn-bennaeth Ysgol y Castell ac roedd pawb a oedd yn ei adnabod yn ei edymygu’n fawr; gwnaeth gyfraniad sylweddol i’n cymuned ac mae’r wobr hon er cof amdano.
Mae’r cyngor yn falch iawn o gyhoeddi mai enillydd 2022 yw Brian Taylor. Cafodd Brian ei enwebu gan y preswylydd lleol Sue Butterworth a oedd yn credu bod Brian yn haeddu’r wobr am ei waith gwych yn Rhuddlan a thu hwnt. Gwnaeth Sue argymell Brian am ei ymdrechion a’i waith caled, nid yn unig ar gyfer Love North Wales Community Support, ond am ei waith cyson a’r ffordd mae wedi mynd ati i wella bywydau pobl yr ardal, yn ogystal â phobl sy’n dod i fyw i’n cymuned oherwydd heriau personol a’r rheini sydd wedi mudo yma i ffoi o’r rhyfel yn Wcráin. Mae Brian yn gweithio pum diwrnod yr wythnos yn ddi-dâl, a’i unig wobr yw helpu pobl eraill mewn angen. Mae’n argyhoeddedig y dylid cynnig cymorth lle bo’r angen.
Mae Brian yn casglu rhoddion o bob rhan o’r gymuned leol a thu hwnt ac yna’n eu dosbarthu i’r rhai mewn angen; gall hyn amrywio o eitem unigol i ddodrefn ar gyfer eiddo cyfan. Yn ogystal â’i waith gyda Love North Wales Community Support, gwelodd fod angen sefydlu grŵp cymorth yn y gymuned leol ar gyfer pobl mewn angen ac er mwyn rhoi cyfle i bobl gymdeithasu. Chwaraeodd rôl allweddol wrth sefydlu cymdeithas Men’s Sheds Rhuddlan lle mae’r aelodau’n cael eu hannog i gysylltu, sgwrsio a chreu. Er bod y gymdeithas hon yn gymharol newydd, mae Brian wedi mynd ati i sicrhau cyllid a threfnu bod adeiladwyr lleol ac aelodau’r Shed wedi creu eu hardal eu hunain yn swyddfa Love North Wales Community Support. Mae hefyd wedi trefnu bod arbenigwyr lleol yn dod i gyfarfod aelodau a rhoi cyngor iddynt fel eu bod yn gwybod beth yw eu hawliau a pha gyrsiau hyfforddiant sydd ar gael iddynt.
Mae Brian yn enillydd teilwng a chyflwynwyd y wobr hon iddo gan Faer Rhuddlan Mike Elgin yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Medi. Mae’r llun cyntaf yn dangos Mike Elgin a’i wraig Marianne a Brian Taylor a’i wraig Sara. Mae’r ail lun yn dangos y Maer Mike Elgin gyda Brian a rhai o aelodau Men’s Shed Rhuddlan.


