Helpu i ddechrau llunio blaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer y dyfodol
Mae’r Cyngor yn dechrau datblygu Cynllun Corfforaethol newydd ac fe hoffai i chi gymryd rhan a dweud eich dweud.
I gymryd rhan ac i ddweud eich dweud, ewch i’r dudalen hon https://countyconversation.denbighshire.gov.uk/projectcy/596 i gwblhau’r arolwg ar-lein a/neu gofrestru ar gyfer y grwpiau ffocws ar-lein.
Mae’n rhaid i ni lunio Cynllun Corfforaethol newydd bob pum mlynedd. Mae’r cynllun hwn yn rhoi ffocws i’r Cyngor ac yn helpu gwasanaethau i gydweithio, cynllunio a chyflawni amcanion penodol a fydd yn helpu i wneud Sir Ddinbych yn lle gwell i bawb i fyw, gweithio ac ymweld.
Fe ddechreuodd y Cynllun Corfforaethol presennol yn 2017 yn dilyn ymarfer ymgynghori o’r enw Sgwrs y Sir a bydd yn dod i ben yn 2022.
O’r ymgynghoriad nododd preswylwyr a’r Cyngor amcanion ar gyfer Tai, Pobl Ifanc, Cysylltu Cymunedau, Cymunedau Gwydn a’r Amgylchedd.
Mae’r Cyngor nawr yn awyddus i barhau gyda Sgwrs y Sir a gofyn i chi beth ddylai’r blaenoriaethau fod ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
I helpu gyda hyn mae’r Cyngor yn lansio arolwg ac yn cynnal grwpiau ffocws ar-lein.
Fe fydd arolwg Parhau â Sgwrs y Sir yn fyw ar-lein o Fai 24 hyd at Orffennaf 31 2021, gyda chopïau papur yn cael eu dosbarthu i ddefnyddwyr y gwasanaeth llyfrgell cartref neu ar gael i’w casglu o lyfrgelloedd a’u dychwelyd yno o Fehefin 1 hyd at Orffennaf 31 2021.
Fe fydd y grwpiau ffocws ar-lein yn cael eu cynnal ar Microsoft Teams ym mis Mehefin a Gorffennaf.
I gymryd rhan ac i ddweud eich dweud, ewch i’r dudalen hon https://countyconversation.denbighshire.gov.uk/projectcy/596 i gwblhau’r arolwg ar-lein a/neu gofrestru ar gyfer y grwpiau ffocws ar-lein.

