Gall pobl lleol yn Sir Ddinbych rwan alw mewn i’w llyfrgell leol i bori, dewis a dychwelyd llyfrau heb apwyntiad. Bydd dal angen gwneud apwyntiad i ddefnyddio cyfrifiadur, i drefnu desg astudio ac i gael mynediad i wasanaethau Siopau Un Alwad trwy ffonio eu llyfrgell leol. Mae llyfrgelloedd yn lefydd diogel i ymweld gyda digon o le ar gyfer ymbellhau cymdeithasol, niferoedd cyfyngedig o bobl ar y tro, a glanweithydd dwylo ac offer ar gael.
Llyfrgelloedd yn Agor ar Gyfer Pori Unwaith Eto
Gall pobl lleol yn Sir Ddinbych rwan alw mewn i’w llyfrgell leol i bori, dewis a dychwelyd llyfrau heb apwyntiad.
Bydd dal angen gwneud apwyntiad i ddefnyddio cyfrifiadur, i drefnu desg astudio ac i gael mynediad i wasanaethau Siopau Un Alwad trwy ffonio eu llyfrgell leol.
Mae llyfrgelloedd yn lefydd diogel i ymweld gyda digon o le ar gyfer ymbellhau cymdeithasol, niferoedd cyfyngedig o bobl ar y tro, a glanweithydd dwylo ac offer ar gael.
Bydd y gwasanaeth
Archebu a Chasglu poblogaidd yn parhau ac mae’r
Gwasanaeth Llyfrgell Cartref yn danfon llyfrau at unrhyw un sy’n methu dod i’w llyfrgell leol – ffoniwch y llyfrgell neu ewch i’r wefan i wybod mwy am y gwasanaeth hwn.
Gofynnir i fenthycwyr ddychwelyd unrhyw lyfrau sydd ar fenthyg trwy eu gollwng yn y llyfrgell. Mae’r holl lyfrau sydd ar fenthyg yn cael eu hadnewyddu yn awtomatig ac ni fydd dirwyon hyd yn oed os ydynt ar fenthyg ers misoedd.
Cllr Tony Thomas, Lead Member for Housing and Communities said “Our libraries have continued to provide an excellent service to local residents throughout the pandemic, and I am delighted that people will now be able to call in to their local library to browse and borrow books without an appointment. I would like to thank library staff for their hard work and commitment in providing a vital service, and to encourage people to visit their local library to discover for themselves the books and services available there.”
Dywedodd y Cyng. Tony Thomas, Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau: “Mae ein llyfrgelloedd wedi parhau i ddarparu gwasanaeth ardderchog i drigolion lleol trwy gydol y pandemig, ac rwy’n falch iawn y gall pobl bellach alw i mewn i’w llyfrgell leol i bori a benthyg lyfrau heb apwyntiad. Hoffwn ddiolch i staff llyfrgell am eu gwaith caled ac ymroddiad wrth ddarparu gwasanaeth hanfodol, ac annog pobl i ymweld â’u llyfrgell leol i weld gyda’u llygaid eu hunain y llyfrau a gwasnaethau sydd ar gael yno.”
Atgoffir trigolion fod modd
ymuno â’r llyfrgell, archebu llyfrau a
lawrlwytho e-lyfrau, e-lyfrau llafar, cylchgronnau a phapurau newydd am ddim trwy fynd i
www.sirddinbych.gov.uk/llyfrgelloedd