Maer a Dirprwy Faer Newydd 2022-2023
Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Tref Rhuddlan ym mis Mai, etholwyd y Cynghorydd Mike Elgin yn Faer am yr ail flwyddyn. Yn ystod yr un cyfarfod cafodd y Cynghorydd Mike Kermode ei ethol yn Ddirprwy Faer.
Dywedodd Mike Elgin “Rwyf yn teimlo’n hynod o falch ac yn wylaidd iawn i gael fy ethol yn Faer Rhuddlan am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae bod yn faer yn anrhydedd mawr a hoffwn ddiolch i’m cyd-Gynghorwyr am ymddiried ynof i gynrychioli ein cymuned wych yn Rhuddlan. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i Andrew Smith, fy Nirprwy y llynedd, am ei gefnogaeth yn ystod 2021 a oedd yn gyfnod anodd ar brydiau oherwydd y cyfyngiadau.
Eleni hoffwn barhau i weithio ar Gynllun Tref Rhuddlan sy’n helpu i wella’r Dref ar gyfer y gymuned leol. Bydd cwblhau ein cyfleuster Cymunedol newydd yng Nghae’r Llyngesydd yn uchafbwynt fy nghyfnod yn y swydd eleni. Mae fy ngwraig Marianne wedi cytuno i fod yn gymar i mi eto eleni.
Mae’r holl elusennau rwyf wedi eu dewis ar gyfer y flwyddyn yn rhai lleol er mwyn cefnogi’r mudiadau gwych yn Rhuddlan sy’n gwneud cymaint ar ran pawb – y rhain yw’r Ganolfan Gymuned, y Clwb Strôc, y Grŵp Dementia ac Eglwys y Santes Fair.”
Mae Mike Kermode wedi bod yn Gynghorydd Tref ers 8 mlynedd bellach. Mae’n wybodus iawn am y ffordd mae llywodraeth leol yn gweithio gan iddo fod yn uwch reolwr gyda Chynghorau Sir Clwyd a Sir y Fflint am sawl blwyddyn cyn ei ymddeoliad. Mae Mike wedi gweithio fel ymgynghorydd busnes hefyd ac fel asesydd ar gyfer safon ansawdd cenedlaethol. Mae’n briod ac mae ganddo ddwy ferch a phedwar o wyrion.
Yn ogystal â’i waith fel Cynghorydd Tref, mae Mike yn Ysgrifennydd Grŵp Dementia Rhuddlan ac mae’n trefnu llawer o weithgareddau’r Grŵp sy’n cael eu cynnal yn y dref. Fel rhan o’r gwaith hwn, llwyddodd i sicrhau’r cyllid allanol ar gyfer yr ardal synhwyraidd i bobl â dementia yn y Warchodfa Natur. Mae Mike hefyd yn aelod o’r grŵp gwirfoddol bach a drefnodd yr ŵyl fwyd a chrefft lwyddiannus iawn a gynhaliwyd yn Stryd y Senedd yng nghanol mis Mai.
Roedd cael ei ethol yn Ddirprwy Faer yn anrhydedd mawr i Mike, fel yr esboniodd “Roedd symud i fyw i dref Rhuddlan tua 50 mlynedd yn ôl yn gam hynod o gadarnhaol i mi a’m teulu. Mae’n lle gwych i ni fyw ac rydym yn mwynhau bod yn rhan o gymuned mor wych. Mae’r gwaith rwyf yn ei wneud gyda’r Cyngor Tref yn rhoi boddhad mawr i mi, yn enwedig pan fydd rhywun yn gweld yr holl welliannau mae’r Cyngor yn eu cyflwyno sy’n dod â budd i bobl a busnesau lleol. Mae cael fy ethol yn Ddirprwy Faer gan y Cyngor Tref yn anrhydedd mawr a byddaf yn gweithio’n galed i gefnogi’r Maer, y Cynghorydd Mike Elgin, yn ystod y flwyddyn i ddod.”

