CADWCH YN WYBODUS

Newyddion Coronafeirws Covid-19

Community Events

Rhannwch y Post:
Diogelu Cymru gyda’n Gilydd... Penawdau Newyddion - Mwy na £680 miliwn yn cyrraedd busnesau ar gyfer cymorth COVID-19 - Mae grantiau cymorth busnes gwerth dros £680 miliwn wedi cyrraedd busnesau ledled Cymru i helpu iddynt ymateb i heriau ariannol Covid-19, yn ôl cyhoeddiad gan Weinidogion.

Newyddion Coronafeirws Covid-19

Diogelu Cymru gyda’n Gilydd.

Penawdau Newyddion

Mwy na £680 miliwn yn cyrraedd busnesau ar gyfer cymorth COVID-19

Mae grantiau cymorth busnes gwerth dros £680 miliwn wedi cyrraedd busnesau ledled Cymru i helpu iddynt ymateb i heriau ariannol Covid-19, yn ôl cyhoeddiad gan Weinidogion.

Coronafeirws (COVID-19): cefnogaeth i fusnesau

Rhyddhau ardreth busnes, grantiau a benthyciadau i fusnesau i’w helpu yn ystod yr anhawster achosir gan COVID-19.

Gweinidogion yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod cyllid yn cyrraedd elusennau yng Nghymru

Cyhoeddodd Adran Addysg Llywodraeth y DU a’r Swyddfa Gartref gyllid o £7.6m ar gyfer elusennau cenedlaethol sy’n cefnogi plant a phobl ifanc agored i niwed sy’n dioddef neu mewn perygl o ddioddef trais domestig, camfanteisio rhywiol a chamdriniaeth.

Gorchuddion wyneb tair haen yn cael eu hargymell, ond ddim yn orfodol, mewn rhai sefyllfaoedd yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn cyngor diweddaraf Sefydliad Iechyd y Byd ac yn argymell y dylai pobl yng Nghymru wisgo gorchuddion wyneb tair haen mewn sefyllfaoedd lle nad yw’n bosibl cadw pellter cymdeithasol.

Gorchuddion wyneb: cwestiynau cyffredin

Sut a phryd y gallech ddefnyddio gorchudd wyneb i amddiffyn y bobl o’ch cwmpas, os ydych yn dewis gwisgo un.

Sut i wneud gorchudd wyneb 3 haen

Cyfarwyddiadau cam wrth gam i wneud gorchudd wyneb 3 haen, anfeddygol eich hun gartref.

Cymorth i bobl agored i niwed gan awdurdodau lleol a grwpiau gwirfoddol

Bydd pobl sy’n agored iawn i niwed yn cael llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru.

Bydd rhai pobl sydd heb dderbyn llythyron yn agored i niwed, ac angen cymorth o bosib i gael bwyd a meddyginiaeth. Mae’n bosib y gall teulu, ffrindiau neu gymdogion helpu.

Os nad oes gennych unrhyw un a all eich helpu gyda bwyd neu feddyginiaeth, mae’n bosib y gallwch gael cymorth gan eich awdurdod lleol neu gan grwpiau gwirfoddol.

Canllawiau gweithredol i ysgolion a lleoliadau Addysg: Diogelu Addysg (COVID-19)

Canllawiau i ysgolion a lleoliadau gynyddu eu gweithrediadau ar y safle yn ddiogel ar gyfer staff a dysgwyr.

Canllawiau ar addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith wyneb yn wyneb: coronafeirws 

Canllawiau i golegau a darparwyr hyfforddiant ar gadw staff a dysgwyr sy’n bresennol yn ddiogel o 15 Mehefin 2020.

Ysgolion yn cynyddu gweithrediadau o 29 Mehefin: coronafeirws

Cwestiynau a ofynnir yn aml am sut y gall ysgolion weithio o 29 Mehefin 2020.

Canllawiau wedi’u cyhoeddi i helpu ysgolion, colegau a lleoliadau gofal plant

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i ysgolion er mwyn iddynt allu cynllunio i ddisgyblion ddychwelyd ar 29 Mehefin i “ailgydio, dal i fyny, paratoi ar gyfer yr haf a mis Medi”.

Diogelu staff a phlant rhag y coronafeirws mewn gofal plant

Sut i baratoi eich gwasanaeth gofal plant i ganiatáu i fwy o blant fynychu, a’u diogelu nhw a’ch staff rhag y coronafeirws.

Canllawiau ar ddysgu dros dymor yr haf: Diogelu Addysg (COVID-19)

Mae’r canllawiau hyn yn rhoi cyngor ar y dysgu a’r addysgu y gallai ysgolion a lleoliadau ddymuno eu darparu dros weddill tymor yr haf.

Addysg uwch a chymorth i myfyrwyr: coronafeirws

Gwybodaeth am addysg uwch a chymorth i fyfyrwyr yn ystod y pandemig coronafeirws.

Datganiad Ysgrifenedig: Taliad arbennig i’r gweithlu gofal cymdeithasol

Adfer gwasanaethau deintyddol yn dilyn COVID-19: llythyr gan y Prif Swyddog Deintyddol

Llythyr yn egluro cynigion ar adfer gwasanaethau deintyddol i weithwyr iechyd deintyddol proffesiynol.

Y Gell Cyngor Technegol: defnyddio gorchuddion wyneb yng nghyd-destun COVID-19

Cyngor COVID-19 roddwyd i Weinidogion Cymru ar 8 Mehefin 2020.

Ystadegau ac ymchwil cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19)

Data a’r dadansoddiad diweddaraf ar effaith coronafeirws ar gymdeithas yng Nghymru.

Gweithwyr hanfodol (allweddol) y coronafeirws: cymhwysedd prawf

Diffinnir y rhain fel gweithwyr critigol ar gyfer profion coronafeirws.

Cynadleddau i’r wasg dyddiol

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cynhadledd i’r wasg am coronafeirws yn ddyddiol am 12.30pm, gyda chyfieithydd BSL. Mae modd gweld y cynadleddau yn fyw ar sianel Twitter @LlywodraethCym, BBC One Wales ac S4C.

Astudiaeth Symptomau COVID

Helpwch ni i ymladd coronafeirws trwy adrodd ar eich iechyd yn ddyddiol, hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n iawn.

Gallwch chi helpu’r GIG yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws drwy gwblhau arolwg iechyd dyddiol ar yr ap Astudiaeth Symptomau COVID. Mae’r ap hwn yn addas ar gyfer pawb, nid i’r unigolion sydd â symptomau yn unig.

Bydd yr app yn ein helpu i ddeall symptomau a lledaeniad COVID-19. Drwy ateb rhai cwestiynau cyflym, gallwch chi ein helpu i gynllunio ein hymateb i coronafeirws.

Ni fyddwn yn rhannu eich atebion y tu hwnt i’r GIG a sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt sy’n gweithio’n uniongyrchol â’r GIG i ymateb i’r coronafeirws.

Profi, olrhain a diogelu

Mae ymgyrch ar y gweill i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr allweddol o strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu Llywodraeth Cymru. Mae’r wybodaeth ddiweddara am y strategaeth, gan gynnwys canllawiau i gyflogwyr, ar y wefan.  (https://gov.wales/test-trace-protect-coronavirus).Mae deunydd fideo wedi cynhyrchu i ddefnyddio mewn ymgyrchoedd ac i rhanddeiliaid rhannu ar ei sianelu. Mae modd i chi lawrlwytho’r deunydd digidol fan hyn a byddem yn gwerthfawrogi os fyddech yn rhannu ar eich sianelu cymdeithasol, er mwyn rhannu gwybodaeth am y strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu.

Gwybodaeth

Diogelu Cymru

Addysg a gofal plant

Canllawiau ar coronafeirws i rieni, pawb sy’n gweithio mewn addysg a darparwyr gofal plant

Diogelu Cymru

Busnesau a chyflogwyr

Cymorth i helpu busnesau a sefydliadau’r trydydd sector yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws

Diogelu Cymru

Cyngor iechyd

Aros gartref, hunanynysu, cael cefnogaeth fel person eithriadol o fregus

Diogelu Cymru

Gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol

Canllawiau’r coronafeirws ar gyfer y GIG a phobl sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol, cymunedol a phreswyl

Diogelu Cymru

Tai

Canllawiau i landlordiaid, cartrefi mewn parciau (symudol) a gwasanaethau cysgu allan yn ystod y pandemig coronafeirws

Diogelu Cymru

Teithio

Cyngor am y coronafeirws i bobl sy’n dod nôl o wlad dramor neu’n bwriadu teithio

Diogelu Cymru

Gwirfoddoli (trydydd sector)

Gwirfoddoli yn ystod pandemig y coronafeirws, cymorth i’r trydydd sector

Diogelu Cymru

Gwasanaethau cymunedol

Cynllunio, tân, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Diogelu Cymru

Swyddi, sgiliau a chefnogaeth ariannol

Help gyda budd-daliadau, i aros yn y gwaith a chael sgiliau newydd

Diogelu Cymru

Deunydd marchnata digidol

Deunydd marchnata gan gynnwys posteri a dogfennau hygyrch.

Dolenni defnyddiol

Llywodraeth Cymru

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Busnes Cymru

Edrych ar ol ein gilydd

Gwirfoddoli Cymru

AMDANOM NI

Cylchlythyr i roi’r wybodaeth a chyngor diweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y Coronafeirws (COVID-19).

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/coronafeirws

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlywodraethCym