Nodyn i Atgoffa Busnesau Sir Ddinbych i Wneud Cais am Ryddhad Ardrethi
Atgoffir busnesau i wneud cais am ryddhad ardrethi cyn i’r cynllun gau ddiwedd mis Mehefin.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog busnesau i wneud cais i Gronfa Gymorth Trethi Busnes Llywodraeth Cymru cyn 30 Mehefin pan fydd y cynllun yn cau.
Hyd yma mae’r Cyngor wedi talu £27,550,000 mewn grantiau i 2,338 o fusnesau ond mae modd i 500 o sefydliadau eraill yn y sir, gan gynnwys elusennau bach o fewn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, wneud cais am hyd at £10,000.
Mae’r Cyngor yn cysylltu â phob busnes cymwys i roi gwybod iddyn nhw am y cymorth sydd ar gael, a fydd yn helpu masnachwyr i ddelio â phandemig Covid-19.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol yr Economi: “Mae’r grantiau hyn yn darparu cymorth hanfodol i fusnesau Sir Ddinbych. Gan fod Llywodraeth Cymru yn cau’r broses ymgeisio ar 30 Mehefin mae’n hollbwysig i fusnesau weithredu rŵan.
“Mae rhai busnesau wedi rhoi gwybod i ni nad oedden nhw’n deall eu bod yn gymwys. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r busnesau sydd wedi derbyn bil trethi busnes heb unrhyw beth i’w dalu ac sy’n gymwys i dderbyn rhyddhad ardrethi busnesau bach, yn gymwys i dderbyn y grant hwn. Mae’r rhan fwyaf o’r busnesau sydd heb ymgeisio yn fusnesau yn y categori hwn, a’n cyngor ni iddyn nhw ydi mynd i’r wefan a gwirio a ydyn nhw’n bodloni’r gofynion.”
Mae manylion y cynllun a’r ffurflenni cais ar gael yn https://www.denbighshire.gov.uk/cy/busnes/ardrethi-busnes/ardrethi-busnes.aspx.

