Pecyn Gwybodaeth Adnoddau Cymunedol
Fel y byddwch yn cofio ym mis Mawrth roedd Swyddogion Cyngor Sir Ddinbych gyda chyfraniad Cynghorwyr Sir, Tref a Chymuned yn cydweithio i lunio rhestr o’r adnoddau ar gael yn ystod yr argyfwng Covid-19 ar draws Sir Ddinbych.
Gallwch ddod o hyd i’r Pecyn Adnoddau Cymunedol (pdf) ar https://www.denbighshire.gov.uk/cy/coronafeirws/adnoddau-cymunedol.aspx
Mae’r rhestr yn cynnwys gwybodaeth am grwpiau a busnesau lleol ar draws Sir Ddinbych sy’n cynnig cefnogaeth gan gynnwys gwybodaeth am gludo bwyd, gwasanaethau siopau bwyd a gwasanaethau cefnogi. Yn ogystal â gwybodaeth yn ymwneud â’r gymuned mae dolenni hefyd i nifer o asiantaethau cefnogi a rhwydweithiau sydd yn gweithredu’n lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Fel y soniwyd yn y Siarter diwygiedig rhwng Cynghorau Tref a Chymuned a Chyngor Sir Ddinbych, ein nod yw bod yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael i’n cymunedau a’n grwpiau ac i rannu gwybodaeth ar y cyd. Am y rheswm hynny hoffwn i chi adolygu’r wybodaeth ar gyfer eich ardal berthnasol. Mae’r rhestr o wybodaeth allweddol yn cael ei ddiweddaru yn rheolaidd ac os oes gennych unrhyw wybodaeth neu gysylltiadau a fyddai yn eich barn chi yn ddefnyddiol i breswylwyr, neu ddiwygiadau sydd angen eu gwneud yna anfonwch e-bost at datblygucymunedol@sirddinbych.gov.uk .

