Plannu blodau gwyllt yn yr ardal Synhwyraidd sy’n Ystyriol o Ddementia yng Ngwarchodfa Natur Rhuddlan
Cafodd Maer Rhuddlan y Cynghorydd Mike Elgin, y Dirprwy-Faer y Cynghorydd Mike Kermode, Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych y Cynghorydd Arwel Roberts a Bradley Shackleton o Dîm Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych fore braf yn yr haul yn plannu plygiau o flodau gwyllt yn yr ardal Synhwyraidd sy’n Ystyriol o Ddementia yng Ngwarchodfa Natur Rhuddlan. Mae’r tri chynghorydd yn aelodau o Grŵp Dementia Rhuddlan a’r Cynghorydd Roberts yw Cadeirydd y Grŵp. Dywedodd “Mae’r ardal synhwyraidd yn y warchodfa natur yn datblygu’n dda. Mae wal gerrig sych wedi cael ei hadeiladu a fydd yn dod ag atgofion i lawer o bobl, ac mae nifer o feinciau o bren lleol wedi’u gosod yno. Rydym yn awr yn plannu pob math o flodau gwyllt, bydd llawer o’r rhain yn arogli’n hyfryd gan ddwyn atgofion i lawer o bobl. Bydd natur yn cymryd amser i ddatblygu’r ardal flodau gwyllt hon, ond cyn pen dim bydd yn lle gwych i ymweld ag ef, eistedd yn yr haul a mwynhau’r blodau a’r golygfeydd.”

